John Bercow

Oddi ar Wicipedia
John Bercow
John Bercow


Cyfnod yn y swydd
22 Mehefin 2009 – 4 Tachwedd 2019
Teyrn Elisabeth II
Rhagflaenydd Michael Martin
Olynydd Lindsay Hoyle

Geni (1963-01-19) 19 Ionawr 1963 (61 oed)
Edgware, Middlesex
Etholaeth Buckingham
Plaid wleidyddol Llafur
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Ceidwadwyr (cyn 2009)
Priod Sally Bercow
Plant Oliver, Freddie a Jemima
Alma mater Prifysgol Essex
Crefydd Iddewiaeth

Gwleidydd o Loegr yw John Simon Bercow (ganed 19 Ionawr 1963) a fu'n Lefarydd Tŷ'r Cyffredin rhwng 2009 a 2019. Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo gael ei benodi fel Llefarydd. Ymunodd a'r Blaid Lafur ym Mehefin 2021.[1]

Arferai fod yn asgell dde caled, a dynerodd wedi iddo gael ei ethol yn AS; erbyn 2009, roedd sïon ei fod am ymuno gyda'r Blaid Lafur, ond ni wnaeth hynny ar y pryd. Methiant fu ei ymdrech i gael ei ethol yn 1987 a 1992 ond bu'n llwyddiannus yn 1997 pan safodd dros Etholaeth Buckingham, a dyrchafwyd ef i'r Gabined yr Wrthblaid yn 2001, yn nhymor Iain Duncan Smith ac yna Michael Howard. Ymddiswyddodd oherwydd angytundeb gyda'r Ddeddf Amddiffyn Plant, yn 2002, ond dychwelodd yn 2004 am ychydig fisoedd cyn iddo gael ei gardiau o'r Cabined.[2][3]

Penodwyd ef yn Ganghellor Prifysgol Swydd Bedford yn 2014 Bercow.[2]

Llefarydd[golygu | golygu cod]

Pan gyhoeddodd Michael Martin ei ymddiswyddiad fel llefarydd, yn 2009, cyhoeddodd ei fwriad i lenwi'i esgidiau, a bu'n llwyddiannus; cafodd ei ethol ar 22 Mehefin, heb gystadleuaeth yn ei erbyn. Cychwynodd ar y gwaith ar 18 Mai 2015.[4]

Ar 6 Chwefror 2017 gwnaeth Bercow ddatganiad o gadair y Llefarydd ei fod yn "gwrthwynebu'n gryf" y dylid gwahodd yr Arlywydd Donald Trump i gyfarch Tŷ'r Cyffredin, a mynegodd fod "gwrthwynebu hiliaeth ac amharchu merched" yn ffactorau pwysig yn ei benderfyniad.[5]

Sgandal[golygu | golygu cod]

Yn 2009, cyhoeddodd y wasg fanylion a oedd yn dangos i Bercow newid dynodiad ei ail dŷ sawl tro, er mwyn talu llai o dreth enillion cyfalaf (capital gains tax) pan werthodd ddau adeilad. Dywedodd na wnaeth unrhyw beth yn anghywir, ond er hyn, talodd £6,508 fel treth ychwanegol.[6]

Yn 2014 cyhoeddwyd fod holl fanylion a gwaith papur Aelodau Seneddol yn ymwneud â chostau teithio a byw cyn 2010 wedi diflannu. Pwyntiwyd bys at Bercow am guddio gwybodaeth parthed sgandalau taliadau AS.[7]

Teitlau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Arfbais John Bercow, dyluniwyd gan Hubert Chesshyre

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Former Speaker and Conservative MP John Bercow joins Labour (en) , BBC News, 19 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 "Chancellor of the University of Bedfordshire". beds.ac.uk. Cyrchwyd 10 Mai 2015.
  3. "How election results are calculated and reported – BBC News". Bbc.co.uk. 30 Ebrill 2015. Cyrchwyd 10 Mai 2015.
  4. "John Bercow to continue as Commons Speaker with MPs' backing – BBC News". Bbc.co.uk. 18 Mai 2015. Cyrchwyd 18 Mai 2015.
  5. [1]
  6. Rayner, Gordon (23 Mehefin 2009). "Speaker election: John Bercow's expenses claims back in spotlight". The Daily Telegraph. Llundain. Cyrchwyd 6 Mai 2010.
  7. MPs to escape expenses investigations after paperwork destroyed by Parliament, Matthew Holehouse, The Daily Telegraph, 20 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Walden
Aelod Seneddol dros Buckingham
19972019
Olynydd:
Greg Smith
Rhagflaenydd:
Michael Martin
Llefarydd y Tŷ
22 Mehefin 20094 Tachwedd 2019
Olynydd:
Lindsay Hoyle