John Barnard Jenkins

Oddi ar Wicipedia
John Barnard Jenkins
Ganwyd11 Mawrth 1933 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Rhagfyr 2020 Edit this on Wikidata
Ysbyty Maelor Wrecsam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, milwr Edit this on Wikidata

Arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru yn ail hanner y 1960au oedd John Barnard Jenkins (11 Mawrth 193317 Rhagfyr 2020).[1]

Ganed ef yng Nghaerdydd, i rieni di-Gymraeg. Ymunodd a'r fyddin yn 1952, a daeth yn swyddog yn y Corfflu Deintyddol Brenhinol.

Ffurfiwyd Mudiad Amddiffyn Cymru yn wreiddiol gan Owain Williams, John Albert Jones ac Emyr Llywelyn Jones fel ymateb i'r cynllun o adeiladu argae ar draws Afon Tryweryn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl. Roedd hyn yn golygu boddi pentref Capel Celyn. Ar 10 Chwefror 1963, ffrwydrwyd bom ar y safle waith gan dri gŵr; yn ddiweddarach cafwyd Emyr Llywelyn Jones yn euog o hyn a'i ddedfrydu i flwyddyn o garchar. Y diwrnod y dedfrydwyd ef, ffrwydrodd bom ger peilon trydan ger Gellilydan; carcharwyd Owain Williams a John Albert Jones am hyn yn ddiweddarach.

Wedi carcharu'r tri sefydlydd, daeth John Jenkins yn arweinydd y mudiad. Credir mai MAC oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom ar safle argae Llyn Clywedog yn 1966. Yn 1967 ffrwydrwyd bom ger pibell oedd yn cario dŵr o Lyn Llanwddyn, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffrwydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gerllaw man oedd i'w defnyddio ar gyfer cynhadledd i drefnu Arwisgiad 1969.

Yn 1968, dinistriwyd swyddfa dreth incwm yng Nghaerdydd gan fom, yna adeilad y Swyddfa Gymreig yn yr un ddinas a phibell ddŵr yn Helsby. Yn Ebrill 1969, ffrwydrwyd bom mewn swyddfa dreth incwm yn ninas Caer. Ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.

Ar 2 Tachwedd 1969 cymerwyd Jenkins, a milwr arall o'r enw Frederick Alders, i'r ddalfa ar gyhudduiad o achosi ffrwydradau. Yn Ebrill 1970 cafwyd ef yn euog ar wyth cyhuddiad a'i ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. Cyhoeddwyd casgliad o'r llythyron a ysgrifennodd pan yng ngharchar. Wedi ei ryddhau, cafodd swydd fel trefnydd cymdeithasol gyda mudiad gwrthdlodi ym Merthyr Tudful. Roedd yn dad i ddau o fechgyn. Ysgarodd â'i wraig Thelma ym 1972, tra'r oedd yn y carchar, ac fe benododd Eileen a Trefor Beasley i ofalu am ei blant yn y cyfnod yma.

Bu'n gweithio fel cwnselydd am nifer o flynyddoedd. Bu'n byw mewn cartref gofal o 2017 hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 2020.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Barnard Jenkins wedi marw yn 87 oed , BBC Cymru Fyw, 18 Rhagfyr 2020.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]