Joe Calzaghe

Oddi ar Wicipedia
Joe Calzaghe
Ganwyd23 Mawrth 1972 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
TadEnzo Calzaghe Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WBO World Super Middleweight Champion Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Paffiwr a phencampwr y byd yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.

Dechreuodd baffio yn broffesiynol yn 1993, ac enillodd pob un o'i 46 o ornestau dros yrfa a barodd bymtheg mlynedd. Yn 2006, cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Nid oes unrhyw un yn y categori uwch-ganol wedi llwyddo i fod yn bencampwr byd cyhyd. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.

Bywyd cynnar a'i yrfa amatur[golygu | golygu cod]

Ganwyd Joseph William Calzaghe yn fab i Enzo a Jaqueline Calzaghe yn Hammersmith, Llundain, ar 23 Mawrth 1972. Symudodd y teulu i Drecelyn, ger Cwmbran, pan oedd yn ddwy oed. Roedd yn ddisgybl yn y Roots School System. Dechreuodd baffio pan oedd yn naw oed. Mewn dros 120 o ornestau amatur, enillodd bedwar gwobr ABA i fechgyn ysgol, ynghyd â thri gwobr ABA Prydeinig i oedran hyn, a hynny'n olynol.

Yr ornest olaf[golygu | golygu cod]

Yng Ngorffennaf 2008, wedi iddo ef a Frank Warren wahanu, fe gyhoeddwyd yn swyddogol o fwriad iddo ef â Roy Jones Jr. baffio ym mhencampwriaeth 'The Ring Magazine; Light-Heavyweight yn Efrog Newydd (Madison Square Garden ar Fedi'r 20ed, 2008. Gan i Calzaghe frifo'i law dde, gohiriwyd yr ornest tan 8 Tachwedd, 2008.

Yn yr ornest hon, o flaen cynulleidfa o 14,512 (a miliynau dros y cyfryngau), Calzaghe fu'n fuddugol (ar bwyntiau). Mae felly wedi curo pob gorchest baffio ar hyd ei yrfa, hyd yma: 46 ohonynt. Ar ôl yr ornest, pan gafodd gwestiwn ynglŷn ag ymddeol dywedodd, "I am going to sit down with my family, take some time and think about it."

Ymddeol[golygu | golygu cod]

Mae wedi ymddeol o baffio ers Chwefror 2009. Dim ond 4 paffiwr erioed sydd wedi ymddeol heb eu curo.

Teledu[golygu | golygu cod]

Yn 2007, enillodd Calzaghe wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC gyda 28.1% o bleidlais y cyhoedd. Enillodd y wobr honno gan BBC Cymru yn 2001, 2006 a 2007.

Bu'n cystadlu yn y gyfres Strictly Come Dancing yn 2009 gyda'i gymar Kristina Rihanoff.

Rhagflaenydd:
Tanni Grey-Thompson
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2001
Olynydd:
Mark Hughes
Rhagflaenydd:
Gareth Thomas
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
2006 & 2007
Olynydd:
Shane Williams