Joanna Southcott

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Joanna Southcott

Ffanatig crefyddol o Saesnes oedd Joanna Southcott ( 1750 - 27 Rhagfyr, 1814). Roedd ei dilynwyr yn credu ei bod yn broffwydoles a feddai ar gyfrinachau mawr.

Cafodd ei geni yn ferch i ffermwr yn Nyfnaint tua'r flwyddyn 1750. Yn 1792 cyhoeddodd mai hi oedd y broffwydoles y cyfeirir ati yn Llyfr y Datguddiad, pennod xii. Aeth i Lundain ar wahoddiad yr engrafwr William Sharp (1749-1824). Ysgrifennodd dros 200 o bamffledi a llyfrau proffwydol, yn cynnwys A Warning (1803) a The Book of Wonders (1813-1814). Ymhlith ei disgyblion oedd y golygydd a geiriadurwr o Gymro William Owen Pughe, a weithredai fel ffactotwm iddi.

Yn 1814 cyhoeddodd ei bod am roi genedigaeth i'r "Ail Dywysog Heddwch" - sef y Meseia newydd - ar 19 Hydref y flwyddyn honno. Ond dioddefodd coma ar yr ymenydd a bu farw ym mis Rhagfyr.

Credir fod gan Southcott hyd at 100,000 o ddisgyblion ar un adeg, a elwid yn 'Southcottiaid'. Daliodd rhai o'i disgyblion i gredu ynddi er gwaethaf hyn ac ni fu farw ei chwlt yn gyfangwbl. Gadawodd ar ei hôl flwch o broffwydoliaethau gyda'r cyfarwyddiad i'w agor ym mhresenoldeb pob esgob o Eglwys Loegr ar achlysur "argyfywng cenedlaethol." Mae rhai pobl yn honni hyd heddiw fod y blwch yn bodoli, er i flwch o'i heiddo gael ei agor oedd yn cynnwys dim byd ond papurach a phistol.

Darllen pellach[golygu]

  • James K. Hopkins: A woman to deliver her people. Joanna Southcott and English millenarianism in an era of revolution. Austin: University of Texas Press, 1981. ISBN 0-292-79017-1
  • Val Lewis: Satan's mistress, the extraordinary story of the 18th century fanatic Joanna Southcott and her lifelong battle with the Devil. Shepperton: Nauticalia, 1997. ISBN 0-9530458-0-3
  • Frances Brown: Joanna Southcott, the woman clothed with the sun. Cambridge: Lutterworth, 2002. ISBN 0-7188-3018-0
  • Frances Brown: Joanna Southcott's box of sealed prophecies. Cambridge: The Lutterworth Press, 2003. ISBN 0-7188-3041-5