Joanna Cole
| Joanna Cole | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Awst, 1944 Newark, New Jersey, |
| Yn enwog am | Magic School Bus |
| Galwedigaeth | Ysgrifennwr |
Awdures plant Americanaidd yw Joanna Cole (ganed 11 Awst 1944), sydd hefyd yn ysgrifennu o dan y ffugenw B. J. Barnet. Mae hefyd athrawes sy'n dysgu gwyddoniaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdures y gyfres llyfrau i blant The Magic School Bus. Mae Joanna Cole wedi ysgrifenni dros 250 o lyfrau yn amrywio o'i llyfr cyntaf "Cockroach" i'w chyfres enwocaf Magic School Bus.
Ganwyd yn Newark, New Jersey a magwyd yn East Orange gerllaw. Roedd yn hoff o wyddoniaeth pan oedd yn blentyn, ac yn dweud y bu ganddi athrawes a oedd yn debyg i Ms. Frizzle. Mynychodd Prifysgol Massachusetts a Prifysgol Indiana cyn graddio o Coleg Dinas Efrog Newydd gyda B.A. mewn seicoleg. Wedi cwblhau rhai cyrsiau i raddedigion, treuliodd flwyddyn yn gweithio fel llyfrgellydd mewn ysgol elfennol yn Brooklyn. Yn ddiweddarach, daeth Cole yn gohebydd llythyron Newsweek, ac yn uwch-olygydd Darllenwyr Ifanc ar gyfer Doubleday Books.