Joan Baez
Oddi ar Wicipedia
| Joan Baez | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Joan Chandos Baez |
| Ganwyd |
Ionawr 9, 1941 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Canu gwerin |
| Galwedigaeth(au) | Cantores, cyfansoddwraig |
| Offeryn(au) cerdd | Llais, gitâr, piano |
| Blynyddoedd | 1958 - presennol |
| Label(i) recordio | Vanguard (1960–1971) A&M (1972–1977) Portrait/CBS (1977–1981) Gold Castle (1987–1991) Virgin (1991–1993) Guardian (1995–2002) Koch (2003–present) |
| Cysylltiedig | Jackson Browne, Mary Chapin Carpenter, Judy Collins,Donovan, Bob Dylan, Mimi Fariña, Grateful Dead, Janis Ian, yr Indigo Girls, Odetta, Pete Seeger, Paul Simon, Dar Williams |
| Gwefan | joanbaez.com |
Cantores a chyfansoddwraig caneuon gwerin ydy Joan Chandos Baez (ganed 9 Ionawr, 1941, yn Ynys Staten, Efrog Newydd). Mae nifer o'i chaneuon yn gyfoes ac yn ymwneud â materion cymdeithasol.
Efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei chân "Diamonds & Rust" ac am ei fersiynau hi o gân Phil Ochs "There but for Fortune" a The Band's "The Night They Drove Old Dixie Down" (sengl a aeth i bump uchaf siart yr Unol Daleithiau ym 1971). Mae hefyd yn enwog am y caneuon "Farewell, Angelina" a "Love Is Just a Four-Letter Word" — ynghyd â "Joe Hill", "Sweet Sir Galahad" a "We Shall Overcome" (tair cân a berfformiodd yng Ngŵyl Woodstock ym 1969).