Jimmy Michael

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jimmy Michael
Manylion Personol
Enw Llawn Jimmy Michael
Dyddiad geni 18 Awst 1877(1877-08-18)
Dyddiad marw 21 Tachwedd 1904 (27 oed)
Gwlad Baner Cymru Cymru
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Taldra Ychydig drost 5'
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Trac
Rôl Reidiwr'
Math o reidiwr Stayer
Golygwyd ddiwethaf ar:
24 Mai 2008

Seiclwr trac Cymreig oedd Jimmy Michael (18 Awst 187721 Tachwedd 1904). Ganed ef yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf. Ddechreuodd seiclo yn ifanc gan ddod i'r amlwg gyda chymorth Arthur Linton a Choppy Wharburton, pan enillodd râs Herne Hill yn gyflymach na neb erioed o’r blaen. Trodd yn seiclwr proffesiynol yn 1895 gan ddod yn Bencampwr Stayer y Byd yr un flwyddyn. Curodd y pencampwr Ffrengig Lucien Lesna, gan gwblhau 50 km yn yr un cyflymdra campus ag Arthur Linton. Rhwng ei lwyddiant ef a thymor gwael Linton, surodd y berthynas rhyngddynt ac yn dilyn marwolaeth Linton, torrodd Michael unrhyw gysylltiad â Warburton gan symud i'r Unol Daleithiau. Cafodd yrfa gweddol lwyddiannus yno am gyfnod, gan dorri recordiau ac ennill ffortiwn sylweddol. Ymddeolodd o'r byd beicio gan fynd i weithio fel joci ac daeth yn berchennog ar stabl rasio. Pan fethodd y fenter, penderfynodd ddychwelyd i Efrog Newydd ond ni chyrhaeddodd a bu farw o’r delerium tremens ar fwrdd llong y Savoie ar 21 Tachwedd 1904, yn bur debyg o ganlyniad i yfed trwm.[1]

Palmarès[golygu]

  • 1af Pencampwriaethau'r Byd Stayer - proffesiynol, Köln, yr Almaen 1895
  • 3ydd Pencampwriaethau Ewrop Stayer - proffesiynol 1902

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf - Aberaman

Dolenni allanol[golygu]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.