Jimmy White

Oddi ar Wicipedia
Jimmy White
Ganwyd2 Mai 1962 Edit this on Wikidata
Tooting Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ernest Bevin College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr snwcer, actor, pool player Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.jimmywhitesnooker.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonLloegr Edit this on Wikidata

Chwaraer snwcer proffesiynol o Tooting, Llundain yw James Warren White, MBE (ganed 2 Mai 1962). Yn ystod ei yrfa, mae wedi cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth chwe gwaith. Mae'n cael ei gyfeirio ato'n aml fel "People's Champion",  ac oherwydd ei ddull ymosodol a rhwydd o chwarae, mabwysiadodd y ffugenw "The Whirlwind". 

Ymysg gorchestion White, enillodd Pencampwriaeth Prydain, y Meistri, Cwpan y Gwledydd ac yn ogystal, ef oedd y chwaraewr llaw chwith cyntaf i gyflawni rhediad 147 ym Mhencampwriaeth y Byd. 

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd White yn Heol Streathbourne, Tooting, Llundain, Lloegr, ac astudiodd yn Ysgol Gyfun Hillcroft (ailenwyd yn hwyrach fel Coleg Ernest Bevin). O'r oed wyth neu naw, trodd ei ganolbwyntio o waith academaidd i dreulio mwy a mwy o amser yn "Zans", neuadd Snwcer Ted Zanoncelli. Yn dilyn marwolaeth Ted yn 1978, trosglwyddwyd y neuadd i'w ferch. O gwmpas yr adeg hynny, cyfarfu â Tony Meo,  ac aeth y ddau ymlaen i gystadlu gyda'i gilydd mewn nifer o leoliadau. Arweiniodd ei dalent snwcer naturiol tuag at yrfa amatur llwyddiannus. Wedi iddo ennill Pencampwriaeth Amatur Lloegr yn 1979, y flwyddyn wedyn, ef oedd y ieuengaf erioed i ennill Pencampwriaeth Amatur y Byd, yn 18,  record sydd erbyn hyn wedi ei drechu gan Ian Preece a Hossein Vafaei.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gyda nifer fawr o gyflawniadau a theitlau, gan gynnwys deg twrnamaint graddedig, mae White yn cael ei gyfrif un uchel iawn ar restr y chwaraewyr mwyaf llwyddiannus. Mae'r BBC yn ei ddisgrifio fel "legend".[1] Yn chwaraewr llaw chwith, cyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd ar chwe achlysur (1984, 1990–1994) ond ofer fu ei ymgais i ennill teitl mwya'r gamp ers pencampwriaeth 1981. Cafodd White drafferth gyda chysondeb safon yn y 2000au ac yn dilyn colli rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd 2006, cwympodd allan o restr 32 uchaf y byd. Parhaodd White i lithro i lawr y rhestr gan gyrraedd rhif 65 ond cododd eto i rif 56 erbyn tymor 2009/10 season. White yw un o chwech chwaraewr yn unig sydd wedi cwblhau rhediad o 147 yn Theatr y Crucible, gan wneud hynny yn ystod Pencampwriaeth y Byd 1992. Mae wedi cyflawni mwy na 300 o redidadau dros gant yn ystod ei yrfa.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd White â Maureen Mockler ac mae ganddyn nhw bump o blant: Lauren (ganed 1981), Ashleigh (ganed 1987), Georgia (ganed 1988), Breeze (ganed 1989), a Tommy (ganed 1998).[3] Ar hyn o bryd mae'n byw yn Epsom, Surrey.[4]

Er ei fod fwyaf adnabyddus am snwcer, mae hefyd yn chwaraewr pŵl a snwcer. Yn ogystal â Steve Davis ac Alex Higgins, roedd yn aelod o dîm pŵl llwyddiannus Ewrop yng Nghwpan Mosconi 1995, gan ennill y gem dyngedfennol yn erbyn Lou Butera.[5] Enillodd ail dwrnamaint y  Poker Million, cynhaliwyd yn 2003, gyda Steve Davis hefyd wrth y bwrdd.[6] Roedd hefyd yn ffrindiau mawr â'r chwaraewr pocer proffesiynol, Dave "The Devilfish" Ulliott.

Yn y 1990au hwyr, cipiwyd ci White,  daeargi o'r enw Splinter, a'i ddal yn wystl. Dyma oedd y ci cyntaf i gael poster lliw ar flaen Splinter papur The Times. Talodd White i'w achub, a dychwelwyd y ci. Bu Splinter fyw am dair mlynedd arall.[7]

Yn 1999, derbyniodd MBE.  Trwy gyd-ddigwyddiad, mae'r tri chwaraerwr sydd wedi ei faeddu mewn rowdniau terfynol Pencampwriaeth Byd (Davis, 1984; Hendry, 1990, 1992, 1993, 1994; Parrott, 1991) hefyd wedi derbyn MBE. Yn 2005, fel rhan o gytundeb nawdd gyda saws HP, newidiodd ei enw i Jimmy Brown dros bencampwriaeth y Meistri.[8]

Ym mis Tachwedd 2007, bu farw ei dad, Tommy White, yn 88 oed. Ar y cyd â'i ferch, Lauren Albert, mae White yn gyfarwyddwr o'r cwmni Jimmy White Ltd., gafodd trosiant gwerthu o £180,359 yn 2006. Mae White wedi bod yn gefnogwr o dîm  Harrogate Town ers 1972.[9]

Yn ei hunangofiant, gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2014, datgelodd White iddo fod yn gaeth i crac cocên am gyfnod o dri mis yn ystod ei yrfa. Dechreuodd gymryd y cyffur yn dilyn ei golled i Steve Davis yn rownd derfyndol Pendcampwriaeth y Byd 1984.[10]

Ymddangosiadau yn y cyfryngau[golygu | golygu cod]

Roedd gan White rôl cameo fel ei hun yn y comedi gan Stephen Chow yn 1990, Legend of the Dragon.

Ar raglen boblogaidd y BBC Big Break, White oedd y chwaraewr cyntaf i glirio'r bwrdd gyda  3 coch yn weddill yn rhan ola'r her (felly'n ennill y brif wobr i'r cystadleuwr). Cafodd ei gyflwyno i'r gynulleidfa ar bob ymddangosiad i'r gân "Jimmy Jimmy" gan The Undertones. White oedd hefyd yr enillydd cyntaf ar raglen ITVTenball,  oedd yn cynnwys cymysgedd o pŵl a snwcer.

Yn y ffilm Jack Said , chwaraeodd White ran Vic Lee, perchennog clwb snwcer, yn ei rôl ffilm cyntaf  ar gyfer sinema Prydeinig.

Ymddangosodd White yn 9fed gyfres White I'm a Celebrity...Get Me Out of Here![11] Gorffennodd yn y trydydd safle ar y 4ydd o Ragfyr 2009[12] gyda Gino D'Acampo yn fuddugol.[13]

Mae White wedi cymeradwyo pedwar gêm cyfrifiadur: Jimmy White's 'Whirlwind' Snooker, Jimmy White's 2: Cueball, Jimmy White's Cueball WorldPool Paradise.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Whirlwind Q&A". BBC Sport. 20 Ebrill 2007. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011.
  2. "Jimmy White on Ronnie O'Sullivan, his snooker future and visit to Norwich". Eastern Daily Press. 5 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-08. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
  3. "Profile: Jimmy White MBE". BBC Sport. 17 Mawrth 2004. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011.
  4. Nodyn:World Snooker
  5. "Snooker Player Jimmy White Plays Online Pool at Play89". PRLeap.com. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011.
  6. "History of the Poker Million". Poker Player. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2011. Cyrchwyd 4 Mai 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. McRae, Donald (1 Rhagfyr 2003). "The return of a frayed master who still calls himself The Whirlwind". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Wainwright, Martin (9 Chwefror 2005). "Brown is the new White in saucy promotion". guardian.co.uk. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011.
  9. "Sport.co.uk meets...Jimmy White". Sport.co.uk. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2011.
  10. "Jimmy White: Snooker legend reveals drug addiction".
  11. "I'm A Celebrity... Get Me Out of Here: reality show line-up is announced". The Daily Telegraph. 12 Tachwedd 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-16. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2011.
  12. Simpson, Oli. "Jimmy White finishes third on 'I'm A Celeb'". Digital Spy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-10. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2011.
  13. "I'm A Celebrity's D'Acampo and Manning face rat charges". BBC News. 6 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2011.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]