Jim Driscoll

Oddi ar Wicipedia
Jim Driscoll
Ganwyd15 Rhagfyr 1880 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1925 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Taldra168 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Paffiwr Cymreig oedd James "Jim" Driscoll a adwaenid fel Peerless Jim (15 Rhagfyr 188030 Ionawr 1925) a ddysgodd ei grefft yn y cylch bocsio, camp a ddefnyddiodd i ymladd ei ffordd allan o dlodi. Roedd Driscoll yn bencampwr pwysau plu Prydeinig ac enillodd Wregys Lonsdale yn 1910. Mae'n aelod o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru, Oriel Anfarwolion Cylchgrawn Ring ac Oriel Anfarwolion Bocsio Rhyngwladol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Driscoll yng Nghaerdydd yn 1880 i Cornelius ac Elizabeth, a magwyd ef yn Heol Ellen yn ardal Newtown y dref. Roedd rhieni Driscoll yn Wyddelod, ac roedd Pabyddiaeth a'r eglwys leol, Eglwys St Paul, yn rhan allweddol o'i fywyd.[1] Ni anghofiodd ei wreiddiau erioed ac roedd yn gefnogwr ffyddlon i'w eglwys, arhosodd yn agos i'w gymuned ac roedd ganddo hoffter mawr o Gartref Plant Amddifad Nazareth.

Bu farw tad Driscoll mewn damwain iard nwyddau cyn bod Driscoll yn un flwydd oed.[1] Gorfodwyd ei fam i dderbyn cymorth plwyf i fagu ei phedwar plentyn, ac yn fuan symudodd y teulu i lety gyda phump o bobl eraill yn 3 Heol Ellen. Roedd yn rhaid i Elizabeth gymryd swydd yn rhofio llysiau a physgod o gyrff llongau yn Nociau Caerdydd.[1] Gan dyfu fyny mewn tlodi, cymerodd Driscoll waith tra'n fachgen ifanc, gan ddod yn was bach argraffydd i'r Evening Express yn Stryd y Santes Fair yng Nghaerdydd.[2]

Gyrfa bocsio[golygu | golygu cod]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Driscoll yn brentis gyda gweithfeydd argraffu y Western Mail, pan ddechreuodd focsio mewn bythod ffair yn Ne Cymru.[3] Ymladdodd yno am nifer o flynyddoedd gan ymladd tua 600 gornest cyn troi'n broffesiynol yn 1901, a chyn diwedd y flwyddyn roedd wedi sicrhau deuddeg buddugoliaeth heb ei drechu. Y flwyddyn ganlynol, o'r saith gornest a gofnodwyd, collodd unwaith yn unig mewn gornest gyfartal gyda Harry Mansfield yng Nghaerdydd. Rhwng 1903 a 1904 parhaodd Driscoll i ymladd, yn bennaf yng Nghymru, ond ar 22 Chwefror 1904 ymladdodd ei ornest gyntaf yn y National Sporting Club yn Llundain, gyda buddugoliaeth drwy bwyntiau yn erbyn Boss Edwards. Y flwyddyn honno cafodd ei guro am y tro cyntaf mewn ail ornest yn erbyn Mansfield, gan golli drwy bwyntiau mewn 10 rownd.

Driscoll (chwith) yn stumio gyda'i gyd-baffiwr Eddie Johnson

Ar 26 Chwefror 1906, gymerodd Driscoll deitl Pwysau Plu Prydain trwy drechu Joe Bowker mewn gornest 15 rownd yn y National Sporting Club. Ymgymerodd a phedair gornest arall cyn ei amddiffyniad cyntaf, oedd yn cynnwys curo Mansfield drwy ei lorio yn eu pedwaredd cyfarfod. Cynhaliwyd ei amddiffyniad teitl cyntaf ar 3 Mehefin 1907, ac roedd yn debyg i'w fuddugoliaeth deitl, gornest arall gyda Bowker yn y National Sporting Club yn Covent Garden. Y tro hwn roedd yn ornest ugain rownd ac fe loriodd Driscoll ei wrthwynebydd yn yr ail rownd ar bymtheg.

Ar 24 Awst 1907 cofnodir gornest 'dim cystadleuaeth' rhwng Driscoll a'i gyd Gymro Freddie Welsh. Mae haneswyr bocsio fel Andrew Gallimore wedi amau fod hwn yn ornest broffesiynol ond yn hytrach gornest arddangosfa mewn ffair. Yn ôl pob sôn fe gymerodd Welsh fantais o'r sefyllfa hon gan ymosod ar Driscoll gyda phwniadau aren a gwarrod. Ni wnaeth Driscoll faddau byth i'w gyn-ffrind am y fath hyfdra.[4]

Ar 24 Ionawr 1908, wynebodd Driscoll y Selandwr newydd, Charlie Griffin ar gyfer y teitl gwag Pwysau Plu y Gymanwlad. Yn ymladd yn Covent Garden unwaith eto, aeth yr ornest y pymtheg rownd lawn gyda Driscoll yn fuddugol ar bwyntiau.

Bocsio yn yr UDA[golygu | golygu cod]

Portread o Driscoll

Ar ôl hawlio teitlau pwysau plu Prydeinig a Chymanwlad aeth Driscoll i brofi ei hun yn yr Unol Daleithiau. Roedd cefnogwyr bocsio Americanaidd y cyfnod yn ffafrio paffwyr llawn egni, ond fe wnaeth eu hennill drosodd gyda'i fedrusrwydd, gan roi iddo'r llysenw "Peerless Jim". (Llysenw arall cyffredin iddo oedd "Jem", ac yn ei dref gartref fe'i galwyd yn "Dywysog Cymru").

Wynebodd Driscoll y pencampwr pwysau plu Abe Attell yn 1910; fe reolodd y Cymro'r ornest, ond gyda'r rheol "dim penderfyniad" mewn lle, heb loriad nid oedd yn gallu cymryd y goron. Fe wrthododd Driscoll ail ornest er mwyn mynd i ornest arddangosfa er lles plant amddifad Cartref Sant Nazareth. "Rwy' byth yn torri adduned."[3] Fe ddychwelodd i'r Unol Daleithiau y flwyddyn ganlynol i wynebu Pal Moore, ond roedd ganddo haint ar yr ysgyfaint a niwed o ddamwain car a gafwyd dyddiau ynghynt. Felly roedd yn ornest wael iddo ac fe gollodd drwy benderfyniad papur newydd.[3] Dychwelodd yn fuan i wledydd Prydain ond ni chafodd gais eto am y teitl yn erbyn Attell.

Wedi iddo ddod y paffiwr pwysau plu cyntaf i ennill Gwregys Lonsdale, paratodd Driscoll ar gyfer gornest yn erbyn Freddie Welsh, a ddisgwyliwyd yn eiddgar. Siom bu'r ornest, fodd bynnag, am fod tactegau sbwylio Welsh wedi tarfu ar arddull Driscoll. Erbyn y 10fed rownd, wnaeth rhwystredigaeth Driscoll gael y gorau ohono a fe'i gwaharddwyd am benio Welsh.

Blynyddoedd hwyrach[golygu | golygu cod]

Torrwyd ar draws gyrfa paffio Driscoll gan y Rhyfel Byd Cyntaf, lle cafodd ei recriwtio fel ymgynghorwr ymarfer corff. Yn y blynyddoedd canlynol, parhaodd i baffio er bod ei iechyd yn gwaethygu, gan ddibynnu ar ei fedrau i'w gadw allan o drwbl. Pan bu farw o'r diciâu yng Nghaerdydd yn 44 mlwydd oedd, daeth dros 100,000 allan ar y strydoedd i'w angladd. Fe'i claddwyd ym Mynwent Cathays yng Nghaerdydd. Gadawodd Driscoll ei wregys Lonsdale i'w gefnder, Tom Burns, oedd yn rhedeg Gwesty y Royal Oak yn Adamsdown, Caerdydd. Heddiw mae'r dafarn wedi ei addurno gyda memorabilia paffio.[5]

Codwyd cerflun er anrhydedd iddo ger Clwb Bechgyn Central, lle'r oedd yn ymarfer, yn 1997.

Record[golygu | golygu cod]

Record olaf swyddogol Driscoll yw 58-3-6, gyda 39 lloriad, ond oherwydd arferion sgorio'r cyfnod, mae hynny yn rhoi 6 gornest 'dim cystadleuaeth' ar ei gofnod. Roedd papurau newydd arfer cyhoeddi enillydd mewn bowtiau dim cystadleuaeth, ac o gymryd hynny i ystyriaeth, ei gwir record oedd 63-4-6, gyda 39 lloriad.

Gornestau nodedig[golygu | golygu cod]

Canlyniad Gwrthwynebydd Math Rownd., Amser Dyddiad Lleoliad Nodiadau[6]
Colli Ffrainc Charles Ledoux RTD 16 (20) 1919-10-20 Y DU National Sporting Club, Covent Garden, Llundain
Ennill Y DU Pedlar Palmer TKO 4 (4) 1919-03-10 Y DU Hoxton Music Hall, Hoxton, Llundain
Cyfartal Y DU Owen Moran PTS 20 1913-01-27 Y DU National Sporting Club, Covent Garden, Llundain
Collii Cymru Freddie Welsh DQ 10 (20) 1910-12-20 Cymru American Skating Rink, Caerdydd
Ennill UDA Abe Attell NWS 10 1909-02-19 UDA National A.C., Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd Penderfyniad papur newydd
Ennill UDA Matty Baldwin PTS 12 1908-12-29 UDA Armory, Boston, Massachusetts
Ennill UDA Matty Baldwin NWS 6 1908-11-13 UDA Fairmont A.C., Bronx, Dinas Efrog Newydd Penderfyniad papur newydd
DC Cymru Freddie Welsh ND 6 1907-09-02 Cymru Gess Pavillon, Pontypridd
Ennill Y DU Joe Bowker KO 17 (20) 1907-06-03 Y DU National Sporting Club, Covent Garden, Llundain
Ennill Y DU Joe Bowker PTS 15 1906-05-28 Y DU National Sporting Club, Covent Garden, Llundain
DC Y DU Johnny Summers ND 3 1906-03-06 Cymru Park Hall, Caerdydd
DC Y DU Owen Moran ND 4 1906-01-18 Cymru Y Barri
Ennill Y DU Johnny Summers DQ 2 (15) 1904-12-12 Y DU National Sporting Club, Covent Garden, Llundain
Ennill George Dixon PTS 6 1904-02-10 Y DU Bryste, Avon
Ennill George Dixon KO 5 1903-06-01 Cymru Cymru
Ennill George Dixon PTS 6 1903-01-24 Y DU Llundain

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Stead (2008) tud. 20
  2. Stead (2008) tud. 21
  3. 3.0 3.1 3.2 Hignall (2007) tud. 23
  4. Gallimore, Andrew (2006).
  5. Lee, Bryan (30 Gorffennaf 2011).
  6. Jim Driscoll's Professional Boxing Record Archifwyd 2012-06-03 yn y Peiriant Wayback.. BoxRec.com. Retrieved on 2014-05-18.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]