Jeli

Oddi ar Wicipedia
Haenau o jeli yn lliwiau'r enfys.

Melysfwyd tryleu yw jeli a wneir drwy hidlo sudd ffrwythau neu lysiau, ei felysu, ei ferwi ac yna'i fudferwi'n araf, a'i geulo. Defnyddir pectin, gelatin neu sylwedd tebyg i'w geulo.[1]

Yn hanesyddol roedd angen amser a medr technegol i baratoi'r melysfwyd hwn. Defnyddiwyd stoc llawn gelatin a wneir o draed lloi, neu weithiau eisinglas. yn y 18g cafodd ei osod mewn gwydrau, weithiau mewn haenau neu "rubanau" o wahanol liwiau. Yn y 19g cafodd jeli ei roi mewn mowldiau copr gan roi iddo siapiau cymhleth, yn aml tyrau castellog. Yn Ewrop heddiw ystyrir jeli yn ddantaith i blant yn bennaf, ac fe'i wneir yn hawdd o flociau o gelatin o bob lliw a blas a ymdoddir mewn dŵr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) jelly (confection). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2013.
  2. Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 322.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: