Jeff Gordon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jeff Gordon

Gyrrwr ceir F1 yw Jeff Gordon a anwyd yn Vallejo, California ar 4 Awst 1971. Roedd yn bencampwr cyffredinol rasio NASCAR bedair gwaith ym 1995, 1997, 1998, a 2001. Mae hefyd yn bencampwr y Daytona 500 dair gwaith. Enillodd y gyfres Sprint Cup dair gwaith.

Mae'n gyd-berchennog gyda Rick Hendrick ar dîm #48 Lowe's Chevrolet sy'n cael ei yrru gan Jimmie Johnson, sydd hefyd wedi ennill y Cwpan Sprint NASCAR yn 2006, 2007, 2008, a 2009.

Gordon oedd y gyrrwr NASCAR cyntaf i ennill cyfanswm o $100 miliwn yn ystod ei yrfa. Ef hefyd oedd y gyrrwr cyflymaf yn hanes NASCAR i allu cyflawni 50 buddugoliaeth. Hyd yn hyn, mae Gordon wedi ennill ras NASCAR 82 o weithiau.

Cysylltiadau Allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: