Jean Drapeau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Jean Drapeau ger Place Jacques Cartier yn yr hen dref, Montréal

Cyfreithiwr a gwleidydd Canadaidd oedd Jean Drapeau (18 Chwefror 1916 – 12 Awst 1999). Maer Montréal oedd ef am ddwy ysbaid, o 1954 hyd 1957 ac o 1960 hyd 1986.

Gwelwyd adfywio'r ddinas o dan ei weinyddiaeth, gan gynnwys prosiectau mawr megis y metro, neuadd gyngerdd y Place des Arts, ac arddangosfa'r Expo (1967). Cyflwynodd loteri gyhoeddus gyntaf Canada ym 1968 fel ffordd i gylludo'r ddinas, syniad a ddilynwyd yn ddiweddarach ar lefel daleithiol. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd ym Montréal dan ei arweinyddiaeth ym 1976. Er gwaethaf llwyddiant y gemau, parhaodd baich y dyledion a achosasant am blynyddoedd maith. Ar ôl iddo ymddeol o fywyd gwleidyddol ym 1986, fe'i penodwyd fel cenhadwr Canada i UNESCO ym Mharis, swydd a gyflawnodd am bedair blynedd o 1987 hyd 1991. Bu farw ym 1999.