Jbel Toubkal
Oddi ar Wicipedia
| Jbel Toubkal Atlas Uchel |
|
|---|---|
| Llun | Golygfa ar Jbel Toubkal |
| Uchder | 4,071 m |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Moroco |
Jbel Toubkal neu Djebel Toubkal (Arabeg; Berbereg Adra N' Dern, 4167 m), a elwir hefyd yn Fynydd Toubkal weithiau, yw copa uchaf yr Atlas Uchel ym Mynyddoedd yr Atlas a mynydd uchaf Gogledd Affrica. Mae'n gorwedd yng nghanolbarth Moroco 63 km i'r de o ddinas Marrakech, yn nhalaith Al Haouz, sy'n rhan o ranbarth Marrakech-Tensift-El Haouz, o fewn y parc cenedlaethol a enwir ar ei ôl.
Yn yr iaith Amazigh (u o'r ieithoedd Berber), gelwir Jbel Toubkal yn Adrar N' Dern (Mynydd Dern).