Jason McRoy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jason McRoy
Manylion Personol
Enw Llawn Jason McRoy
Dyddiad geni 26 Tachwedd 1971(1971-11-26)
Dyddiad marw 24 Awst 1995 (23 oed)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Beicio Mynydd
Rôl Reidiwr
Math o reidiwr Lawr Allt
Tîm(au) Amatur
1992-1993 Team MBUK
Tîm(au) Proffesiynol
1994-1995 Specialized USA
Prif gampau
Flag of the United Kingdom.svg Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar:
8 Hydref 2007

Beiciwr mynydd proffesiynol Seisnig oedd Jason McRoy (ganwyd 26 Tachwedd 1971 Ysbytu Luton a Dunstable, Luton, Swydd Bedford - bu farw 24 Awst 1995, Swydd Derby). McRoy oedd y beiciwr mynydd Prydeinig cyntaf erioed i ymuno â dîm proffesiynol Americanaidd, bu hefyn yn Bencampwr Cenedlaethol Beicio Mynydd Lawr Allt Prydain.

Ganwyd Jason McRoy â twll yn ei galon, roedd ei blentyndod yn llawn daweiniau a iechyd gwael ond llwyddodd mewn chwaraeon yn bennaf oherwydd ei benderfynoldeb. Cystadlodd mewn rasus BMX yn ei arddegau. Cystadlodd yn ei ras beicio mynydd cyntaf yn 17 oed, yn 1988, gan ddarfod yn y drydedd safle wrth gystadlu yn erbyn dynion hyn, er ei fod yn swyddogol dal yn y categori Iau. Dewiswyd Jason i gynyrchioli ei wlad ym Mhencampwriaethau'r byd yn 1991. Yn 1992, cafodd ei noddi fel aelod o dîm MBUK.

Trodd yn broffesiynol yn 1994, gan reidio dros dîm Specialized USA, roedd ei lwyddianau'n gyfyngedig y flwyddyn honno oherwyd amryw o anafiadau a lwc ddrwg gyda'i feic yn torri sawl gwaith. Er hyn, llwyddodd i ennill Bencampwr Cenedlaethol Beicio Mynydd Lawr Allt Prydain am yr ail flwyddyn yn ganlynol.

Yn 1995 trodd ei law at rasio ar y trac, roedd ei berfformiadau'n syfrdanol a dechreuodd hyfforddwr Prydain, Doug Daley, gymryd diddordeb ynddo, roedd yn debygol iawn y buasai'n cystadlu ar y trac yng Ngemau Olympaidd Athens yn 1996.

Bu farw Jason mewn damwain gyda lori tra'n reidio ei Harley Davison ar 24 Awst 1995.

Dolenni Allanol[golygu]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.