Jane Hughes (Deborah Maldwyn)

Oddi ar Wicipedia
Jane Hughes
FfugenwDeborah Maldwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1811 Edit this on Wikidata
Pontrobert Edit this on Wikidata
Bu farw1878 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1840 Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Jane Hughes (25 Mehefin 18111878), a fu'n adnabyddus i'w chyfoeswyr wrth ei henw barddol Deborah Maldwyn.[1][2]

Roedd hi'n un o ferched John Hughes (1775-1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur, a'i wraig Ruth Evans a fu'n forwyn yn Nolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths. Fe'i ganed ym Mhontrobert, Maldwyn, Powys yn 1811.[1]

Dechreuodd Jane grwydro Cymru ar ddiwedd y 1850au wedi marwolaeth ei rhieni. Roedd hi'n dilyn sasiynau'r Methodistiaid ac yn ennill ei bywoliaeth drwy werthu ei baledi crefyddol. Daeth yn bur adnabyddus ym myd Methodistiaid Cymru. Cyhoeddodd lawer o gerddi ar daflenni baledi a chyhoeddwyd dau gasgliad sylweddol o'i cherddi yn 1877.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Yr Epha Lawn o Ymborth Ysprydol (1877)
  • Telyn y Cristion (1877)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. James, E. Wyn (2021). "“Montgomeryshire Worthies”: biographical dictionary entries for John Davies (Tahiti), Ann Griffiths, and the Hughes family of Pontrobert". Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd/Historical Society of the Presbyterian Church of Wales) 45: 93-94.