Jane Goodall
Oddi ar Wicipedia
Primatolegydd, etholegydd ac anthropolegwraig o Saesnes yw'r Fonesig Jane Morris Goodall DBE (ganwyd Valerie Jane Morris-Goodall ar 3 Ebrill 1934) sydd hefyd yn Gennad Heddwch i'r Cenhedloedd Unedig. Mae'n enwog am ei hastudiaeth o tsimpansïoedd ym Mharc Cenedlaethol Nant Gombe yn Tanzania.