Jan Palach
Oddi ar Wicipedia
Cofeb yn Sgwâr Václavské, Prag, i Palach a Jan Zajíc, myfyriwr arall a losgodd ei hunan rhyw fis ar ôl protest Palach.
Myfyriwr Tsiecaidd oedd Jan Palach (11 Awst 1948 – 19 Ionawr 1969), a losgodd ei hunan i farwolaeth ym Mhrag ar 16 Ionawr 1969 mewn protest yn erbyn goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw yn sgîl Gwanwyn Prag.