Jamie Staff

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jamie Staff
Manylion Personol
Enw Llawn Jamie Staff
Dyddiad geni (1973-04-30)

Ebrill 30, 1973 (age 40)

Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth BMX a Trac
Rôl Reidiwr
Math o reidiwr Sbrint
Prif gampau
Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pencampwr y Byd x4
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Silver medal blank.svg Gemau'r Gymanwlad x2
Bronze medal blank.svg Gemau'r Gymanwlad
Golygwyd ddiwethaf ar:
4 Hydref 2007

Seiclwr Trac a BMX ydy Jamie Staff (ganwyd 30 Ebrill 1973, Ashford, Caint). Mae wedi ennill nifer o fedalau ym Mhencampwriaethau'r Byd, Cwpanau'r Byd a Gemau'r Gymanwlad.

Cynnwys

Proffil [golygu]

Dechreuodd Jamie reidio BMX yn 9 oed ar ôl gweld ffrindiau'n reidio,[1] ac yn 2002, ef oedd frig y newyddion yn y byd seiclo. Fel reidiwr BMX, roedd wedi ennill bron popeth o Bencampwriaethau'r Byd ac i lawr, penderfynnodd yn 2001 ei fod eisiau ennill medal Olympaidd a gan nad oedd BMX yn un or chwaraeon a gafodd ei gynnwys yn y gemau ar y pryd, trodd ei sylw tuag at sbrintio ar y trac.

Cymhwysodd fel aelod o dîm Prydain yn ei ymgais cyntaf, ers hynnu mae wedi gwneud sawl perfformiad edmygys. Yn gystadleuwr naturiol, mae'n mwynhau natur rhyfelgar seiclo Sbrint a Keirin, er mae ei gampweithiau pennaf hyd yn hyn wedi bod yn nisgyblaethau Sbrint Tîm a'r Kilo.

Bu'n aelod o dîm Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad pan enillont fedal arian yn y Sbrint Tîm, cystadlodd yn rownd cyn-derfynol y sbrint gan dorri record 200 medr cenedlaethol Prydain yn y broses. Enillodd fedal efydd yn y Kilo, tu ôl i'r Albanwyr a'i gyd-aelodau tîm ar dîm Prydain, Chris Hoy a Jason Queally.

Cyflawnodd yn fwy nag oedd disgwyl iddo pan helpodd Brydain ennill medal aur yn Sbrint Tîm Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2002 yn Copenhagen, llai na blwyddyn ar ôl dechrau rasio ar y trac. Yn 2003, cariodd ymlaen gan recordio dau amser gorau personol yn y Kilo ac ennill y gystadleuaeth yng nghymal Mexico o Gwpan y Byd Trac.[2]

BMX [golygu]

Roedd Jamie Staff yn un o'r reidwyr a oedd yn cystadly yn yr Unol Daleithiau yng nghyngreiriau cenedlaethol yr ABA (American Bicycle Association) a'r NBL (National Bicycle League) ac roedd yn aml yn gwneud y prif gystadleuaeth AA Pro[1], gan ennill NBL Pro Cenedlaethol 1 (Elet) Dynion (AA) yn 2001, ac ennill Pencampwriaethau BMX y Byd yn 1996. Penderfynnodd ganolbwyntio ar seiclo trac yn 2001 ond mae'n dal i gymryd rhan mewn BMX rwan ac yn y man, er engraifft yn 2002, cystadlodd yn yr X Games VIII - BMX Downhill).

Canlyniadau [golygu]

BMX [golygu]

1996
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Pencampwriaethau BMX y Byd[3]

Trac [golygu]

2002
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Silver medal blank.svg Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Bronze medal blank.svg Kilo, Gemau'r Gymanwlad
2003
1af Kilo, Cymal Mexico, Cwpan y Byd Trac, UCI
1af Sbrint Tîm, Cymal De Affrica, Cwpan y Byd Trac, UCI
2il Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Sbrint, Cymal Mexico, Cwpan y Byd Trac, UCI
2004
1af Cycling World Champion Rainbow Stripes.png Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI[2]
2006
2il Silver medal blank.svg Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad[4]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. 1.0 1.1 BMX Ultra interview
  2. 2.0 2.1 Gwefan Swyddogol y Gemau Olympaidd
  3. Cyfweliad gyda British Cycling 2004
  4. Gold for Scotland in team sprint BBC 19 Mawrth 2006