Jameston

Oddi ar Wicipedia
Jameston
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7°N 4.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS055990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentrefan yng nghymuned Maenorbŷr, Sir Benfro, Cymru, yw Jameston.[1][2] Fe'i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, tua 1 filltir (1.6 km) i'r gogledd-orllewin o bentref Maenorbŷr. Saif ar ffordd A4139 rhwng Penfro a Dinbych-y-pysgod.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Jameston boblogaeth o 634.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o faenor Eingl-Normanaidd Maenorbŷr.[6] Mae’n bosibl bod enw’r lle, a gofnodwyd fel "apud Sanctu Jacob" yn 1295, ac fel "Saint Jameston" yn 1331, yn deillio o enw ffair yn hytrach nag o eglwys neu gapel; yn sicr erbyn yr 16g roedd ffair wedi'i chysegru i Sant Iago yn cael ei chynnal yno ar ddygwyl y sant.[7]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gerald Codd, Manorbier Parish: A History (Jameston: Heliotrope Publishing, 2012)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Hydref 2021
  3. City Population; adalwyd 13 Hydref 2021
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Jameston", Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; adalwyd 13 Hydref 2021
  7. A. D. Mills, A Dictionary of British Place Names (Rhydychen: Oxford University Press, 2011)
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato