James Watt

Oddi ar Wicipedia
James Watt
Ganwyd19 Ionawr 1736 Edit this on Wikidata
Greenock Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1819 Edit this on Wikidata
Heathfield Hall Edit this on Wikidata
Man preswylGlasgow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Alban Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd, cemegydd, ffisegydd, dyfeisiwr, entrepreneur, mathemategydd, technegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadThomas Newcomen Edit this on Wikidata
TadJames Watt Edit this on Wikidata
MamAgnes Muirhead Edit this on Wikidata
PriodAnn McGrigor, Peggy Miller Edit this on Wikidata
PlantJames Watt, Margaret Watt, Gregory Watt, Janet Watt Edit this on Wikidata
PerthnasauRobert Watson-Watt Edit this on Wikidata
Gwobr/audoethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Scottish Engineering Hall of Fame, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin Edit this on Wikidata
llofnod

Peiriannydd a dyfeisiwr Albanaidd oedd James Watt (19 Ionawr 173625 Awst 1819). Roedd y gwelliannau a wnaeth ef i'r peiriant ager yn allweddol i'r Chwyldro Diwydiannol.

Ganed James Watt yn Greenock, yn fab i wneuthurwr a pherchennog llongau. Aeth i'r ysgol yn ysbeidiol, ond addysgwyd ef yn bennaf gan ei fam, Agnes. Pan oedd y 18 oed, aeth i Lundain i astudio gwneud offerynnau mesur, yna dychwelodd i'r Alban gan ddechrau gweithdy oddi mewn i Brifysgol Glagow. Priododd Margaret Miller yn 1764, a chwasant bump o blant, cyn iddi hi farw ar enedigaeth plentyn yn 1777. Ail-briododd ag Ann MacGregor.

Bedair blynedd ar ôl agor ei weithdy, dechreuodd Watt arbrofi a pheiriannau ager. Erbyn 1765 roedd ganddo fodel oedd yn gweithio. Cymerodd flynyddoedd i fedru cael fersiwn y gellid ei ddefnyddio ar raddfa fawr, ond yn 1776, dechreuodd y peiriannau cyntaf weithio a thros y blynyddoedd nesaf gwerthwyd nifer fawr ohonynt, yn enwedig i bwmpio dŵr o fwyngloddiau. Parhaodd Watt i ddatblygu a gwella'r peiriant ager dros y blynyddoedd nesaf. Ymddeolodd yn 1800, a phrynodd ystad yng Nghymru yn Noldowlod ger Llanwrthwl; mae ei ddisgynyddion yno o hyd.