James Prescott Joule
Oddi ar Wicipedia
Ffieswgwr Seisnig oedd James Prescott Joule (24 Rhagfyr, 1818 - 11 Hydref, 1889). Mae'n adnabyddus am ei astudiaethau ar natur gwres, ac am ddarganfod ei gysyllriad a gwaith mecanyddol. Arweiniodd hyn at ddatblygiad Deddf gyntaf thermodynameg. Enwyd y joule, uned i fesur egni, ar ei ôl.
Ganed Joule yn Salford, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i fragwr cyfoethog. Addysgwyd ef gartref, yna cafodd ei yrru i Fanceinion i astudio dan John Dalton. Daeth yn rheolwr yn y bragdy, gyda gwyddoniaeth fel hobi ar y cychwyn.