James Macpherson

Oddi ar Wicipedia
James Macpherson
FfugenwOssian Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Hydref 1736 Edit this on Wikidata
Ruadhainn Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 1796 Edit this on Wikidata
Swydd Inverness Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
PlantJuliet Macpherson Edit this on Wikidata

Roedd James Macpherson (27 Hydref 173617 Chwefror 1796; Gaeleg yr Alban: Seumas Mac a' Phearsain) yn fardd Albanaidd sy'n fwyaf adnabyddus fel "cyfieithydd" y farddoniaeth yr hawliai ei bod wedi ei chyfansoddi gan Ossian.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Ruthven ym mhlwyf Kingussie, Badenoch, Swydd Inverness, yn Ucheldiroedd yr Alban. Yn 1753, gyrrwyd ef i astudio i Aberdeen. Aeth i Gaeredin am flwyddyn, ond nid oes sicrwydd a aeth i'r brifysgol yno. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn y cyfnod yma, a chyhoeddwyd peth yn ddiweddarach fel The Highlander (1758).

Wedi gorffen ei addysg dychwelodd i Ruthven a bu'n dysgu yn yr ysgol yno. Dechreuodd gasglu barddoniaeth Gaeleg ac yn 1760 cyhoeddodd Fragments of Ancient Poetry collected in the Highlands of Scotland.

Cododd Dr Hugh Blair dysteb i'w alluogi i barhau a'r gwaith o gasglu barddoniaeth, a bu'n teithio o gwmpad gorllewin Swydd Inverness a'r ynysoedd. Yn 1761 cyhoeddodd ei fod wedi darganfod barddoniaeth epig am Fingal (yn cyfateb i Fionn mac Cumhaill ym mytholeg Iwerddon) wedi ei ysgrifennu gan Ossian, Yn Rhagfyr y flwyddyn honno cyhoeddodd Fingal, an Ancient Epic Poem in Six Books, together with Several Other Poems composed by Ossian, the Son of Fingal, translated from the Gaelic Language.

Yn 1764 aeth i Pensacola, Florida fel ysgrifennydd i'r Cadfridog Johnstone. Ffraeodd a'r cadfridog ddwy flynedd yn ddiweddarach ac ymddiswyddo, ond cafodd gadw ei gyflog fel pensiwn. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys Original Papers, containing the Secret History of Great Britain from the Restoration to the Accession of the House of Hanover. Aeth i'r Senedd fel Aelod tros Camelford ac yn ddiweddarach prynodd stad yn Swydd Inverness, lle bu farw.

Dylanwad "Ossian"[golygu | golygu cod]

Daeth y farddoniaeth gan "Ossian" yn eithriadol o boblogaidd trwy ran helaeth o Ewrop, ac roedd yn un o'r elfennau pwysicaf yn y diddordeb cynyddiol yn y Celtiaid. Roedd rhai, yn enwedig yn Lloegr, yn haeru mai gwaith MacPherson ei hun ydoedd. Y farn gyffredinol yn awr yw fod MacPherson wedi darganfod rhywfaint o farddoniaeth draddodiadol ar y pwnc, ond mai ef oedd wedi eu gwneud yn un gerdd a'u haddasu'n sylweddol i apelio i'w oes ei hun; creadigaeth Macpherson yw'r gerdd Fingal felly, nid "Ossian".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Fingal, an Ancient Epic Poem in Six Books, together with Several Other Poems composed by Ossian, the Son of Fingal, translated from the Gaelic Language (1761).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: