James Dickson Innes
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd Cymreig oedd James Dickson Innes (27 Chwefror 1887 – 22 Awst 1914) a beintiodd tirluniau yn bennaf.
Ganed Innes yn Llanelli, yn fab i Albanwr a weithiai yn y gweithfeydd tun lleol. Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Brycheiniog, Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac Ysgol Gelf y Slade. Ym 1911 treuliodd llawer o amser yn peintio gydag Augustus John yng Ngogledd Cymru, ond gwnaed llawer o'i waith mewn gwedydd tramor megis Ffrainc a Sbaen. Bu farw o tuberculosis yn Swanley, Caint.