Jacques Vergès

Oddi ar Wicipedia
Jacques Vergès
GanwydJacques Camille Raymond Vergès Edit this on Wikidata
5 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata
Ubon Ratchathani Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 2013 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
7fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Man preswylFfrainc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Algeria Edit this on Wikidata
AddysgCertificat d'Aptitude à la Profession d'Avocat Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, ysgrifennwr, gweithredydd gwleidyddol, cyfreithegwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth, Q80543385 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Ffrengig Edit this on Wikidata
TadRaymond Vergès Edit this on Wikidata
MamKang Pham-Thi Edit this on Wikidata
PriodDjamila Bouhired Edit this on Wikidata
PartnerMarie-Christine Durand Edit this on Wikidata
PerthnasauFrançoise Vergès, Laurent Vergès, Pierre Vergès Edit this on Wikidata
LlinachQ3065564 Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr Ffrengig oedd Jacques Vergès (5 Mawrth 192515 Awst 2013).[1] Roedd yn enwog am amddiffyn diffynyddion a gyhuddwyd o derfysgaeth, troseddau rhyfel, a throseddau yn erbyn dynoliaeth, gan ennill iddo'r llysenwau "Dadleuydd y Diafol" ac "Adfocad yr Anamddiffynadwy" (Ffrangeg: l'avocat de l'indéfendable).[2] Galwodd ei hunan yn un salaud lumineux ("bastard disglair").[3]

Ganwyd Jacques a'i efell Paul yn Ubon Ratchathani, Siam,[4] yn fab i gonswl Ffrengig ac athrawes Fietnamaidd. Bu rhaid i'w dad ymddiswyddo gan nad oedd priodas rynghiliol yn gyfreithlon gan yr awdurdodau Ffrengig. Cafodd Jacques ei fagu ar ynys Réunion, ac adnabuwyd gan y llysenw "y Tsieinead" (le Chinois).[2] Yn ystod ei blentyndod y tyfodd ei daliadau gwrth-drefedigaethol. Ym 1942 teithiodd i Lerpwl i wirfoddoli yn Lluoedd y Ffrancod Rhydd ac ymunodd â'r résistance yn Ewrop. Wedi'r rhyfel, astudiodd y dyniaethau ac ieithoedd dwyreiniol ym Mhrifysgol Paris, ac ymhlith ei gyd-fyfyrwyr oedd Pol Pot. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol tra'n byw yn yr Ardal Ladinaidd ym Mharis, a daeth yn ysgrifennydd undeb rhyngwladol comiwnyddol y myfyrwyr. Ymwelodd â'r Bloc Dwyreiniol gan gwrdd ag Erich Honecker ac Alexander Shelepin. Gadawodd Vergès y Blaid ym 1957 gan ei galw'n "llugoer".[5]

Dechreuodd Vergès amddiffyn aelodau'r Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN) ym 1957, gan ddatblygu ei défense de rupture ("amddiffyniad rhwyg"), yn gyntaf i amddiffyn y bomwraig Djamila Bouhired. Wrth graidd y strategaeth hon oedd i gyhuddo'r cyhuddwyr yn y llys. Ymatebodd Vergès i'r cyhuddiad o derfysgaeth gan haeru bod anghyfiawnder a gormes y Ffrancod yn Algeria yn drosedd fwy.[3] Dedfrydwyd Bouhired i'r gilotîn, ond diddymwyd y dedfryd marwolaeth yn sgil protest ryngwladol.[5] Priododd Bouhired a Vergès ym 1963 a chafodd ddau fab ac un ferch.[1] Yn y 1960au amddiffynnodd hefyd aelodau Gang Baader-Meinhof, a Phalesteiniaid oedd wedi'u cyhuddo o ymosod ar awyrennau El Al yn Athen a Zürich.[4]

Aeth Jacques Vergès o'r golwg ym 1970, gan adael ei deulu hyd yn oed. Ymddangosodd yn gyhoeddus unwaith eto ym 1978, ond gwrthododd i ddweud i ble'r aeth yn ystod yr wyth mlynedd honno. Credodd nifer yr oedd yn gweithio i'r Khmer Rouge yng Nghambodia, neu efallai yn y Congo neu Syria.[3] Dychwelodd at ei waith yn gyfreithiwr, ac ymhlith ei gleientiaidd oedd Waddi Haddad (arweinydd y Ffrynt Poblogaidd dros Ryddhad Palesteina), Anis Naccache (a geisiodd llofruddio cyn-Brif Weinidog Iran Shapour Baktiar ym Mharis), Carlos y Siacal, pennaeth y Gestapo yn Lyon Klaus Barbie, Arlywydd Serbia Slobodan Milosevic, a Gweinidog Tramor Irac Tariq Aziz. Yn 2011 teithiodd Vergès i Gambodia i amddiffyn Khieu Samphan, un o arweinwyr y Khmer Rouge, yn erbyn cyhuddiadau o droseddau yn erbyn dynoliaeth.[5] Trwy gydol ei yrfa, dibynnodd Vergés ar ei défense de rupture. Dadleuodd bod troseddau Carlos yn llai na throseddau Israel yn erbyn y Palesteiniaid, ac yn achos Klaus Barbie gwnaeth sylw o'r ffaith yr oedd llywodraeth Vichy yn cydweithio â'r Natsïaid.[3]

Ysgrifennodd Vergès mwy nag 20 o lyfrau. Bu farw o drawiad ar y galon yn 88 oed, yn yr un ystafell lle bu farw Voltaire.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Williamson, Marcus (16 Awst 2013). Jacques Vergès obituary: Lawyer whose notorious clients included Pol Pot, Klaus Barbie and Carlos the Jackal. The Independent. Adalwyd ar 19 Awst 2013.
  2. 2.0 2.1 (Ffrangeg) L'avocat Jacques Vergès est mort. Le Parisien (15 Awst 2013). Adalwyd ar 1 Medi 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Obituary: Jacques Vergès. The Economist (24 Awst 2013). Adalwyd ar 1 Medi 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) McFadden, Robert D. (16 Awst 2013). Jacques Vergès, Defender of Terrorists And War Criminals, Is Dead at 88. The New York Times. Adalwyd ar 1 Medi 2013.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Marlowe, Lara (17 Awst 2013). ‘Devil’s advocate’ Jacques Vergès dies in Paris. The Irish Times. Adalwyd ar 1 Medi 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: