Jacobitiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Charles Edward Stuart, Bonnie Prince Charlie

Jacobitiaeth yw'r term a ddefnyddir am y mudiad gwleidyddol oedd yn anelu at ddychwelyd aelodau o deulu brenhinol y Stiwartiaid i orsedd Lloegr a'r Alban. Daw'r enw o Jacobus, y ffurf Ladin ar enw Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban.

Diorseddwyd Iago II/ VII yn 1688, a bu raid iddo ffoi i'r cyfandir. Yn ei le, daeth ei ferch, Mari II a'i gŵr Wiliam III (Wiliam o Orange) i'r orsedd. Wedi ei marwolaeth hwy, daeth Anne, un arall o ferched Iago II/ VII, yn frenhines. Bu hi farw yn 1714, a daeth Etholwr Hannover yn frenin fel Siôr I. Roedd un arall o blant Iago II/ VII, James Francis Edward Stuart, yn byw ar y cyfandir, ond gan ei fod yn Gatholig, caewyd ef allan o'r olyniaeth. Hawliai ef yr orsedd fel Iago III/ VIII. Roedd cefnogaeth i deulu'r Siwartiaid yn parhau yn gryf yn Iwerddon, Ucheldiroedd yr Alban a rhannau o Ogledd Lloegr. Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth i'r mudiad yng Nghymru.

Gwnaed ymgais i ddychwelyd y Stiwartiaid i'r orsedd yn 1715, ond methodd yr ymdrech wedi i'r fyddin Jacobitaidd fethu gorchfygu byddin y llywodraeth ym Mrwydr Sheriffmuir; roedd gwrthryfel byrhoedlog yn 1719 yn aflwyddiannus hefyd. Bu ymgyrch arall yn 1745, pan laniodd mab Iago III/ VIII, Charles Edward Stuart, (Bonnie Prince Charlie) yn Ucheldiroedd yr Alban a chodi byddin. Cafodd ei ddilynwyr nifer o lwyddiannau, ond gorchfygwyd hwy ym Mrwydr Culloden.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnai dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".