Jackie Wilson
Oddi ar Wicipedia
Canwr o Americanwr oedd Jack Leroy "Jackie" Wilson, Jr. (9 Mehefin 1934 – 21 Ionawr 1984) oedd yn canu rhythm a blŵs a soul yn bennaf. Ymysg ei ganeuon enwocaf yw "Reet Petite", "Lonely Teardrops", "Night", "To Be Loved", "(Your Love Keeps Lifting Me) Higher and Higher", a "I Get the Sweetest Feeling".
Ym 1975 cafodd trawiad y galon a chwympodd ar lwyfan tra'n perfformio a bu mewn coma nes iddo farw o niwmonia ym 1984.