Jack Lauterwasser
Jack Lauterwasser | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1904 Llundain |
Bu farw | 2 Chwefror 2003 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon |
Seiclwr cystadleuol a peirianwr seiclo Seisnig oedd Jack Lauterwasser (4 Mehefin 1904 – 2 Chwefror 2003).[1] Enillodd fedal arian tra'n cynyrchioli Prydain yn nhreial amser y Gemau Olympaidd yn Amsterdam yn 1928.
Ymunodd Lauterwasser â'i glwb seiclo lleol yn Finsbury Park, ac enillodd ei dreial amser 25 milltir cytaf cyn ei benblwydd yn 14 oed. Aeth ymlaen i arbenigo mewn treialon amser pellter hir gan gynnwys rasus 12 awr.
Yn Amsterdam, gorffennodd Lauterwasser yn y bumed safle mewn amser o 5 awr 2 munud a 57 eiliad ar gyfer 165 kilometr. Gorffenodd ei gyd-aelodau tîm, Frank Southall yn ail a John Middleton yn 26ed,[2] Roedd Lauterwasser yn rhan o dîm a enillodd y drydedd safle yn wreiddiol ond rhoddwyd y fedal arian iddynt pan ddiarddelwyd yr Eidal.
Torodd record 50 milltir y Road Records Association (RRA) o bron i tri munud mewn amser o l awr 54 munud a 47 eiliad a'r record 100 milltir o dros 18 munud mewn amser o 4 awr 13 munud a 35 eiliad.
Roedd Lauterwasser yn beirianydd beics galluog, agorodd siop feics yn Llundain yn 1929,yn adeiladu fframiau ar gyfer archebion arbennig a rhoi patent ar ei ddyluniad ar gyfer handlebar.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Teyrnged yn The Times, 7 Chwefror, 2003.
- ↑ "History of Norwood Paragon CC - 1928" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-04. Cyrchwyd 2007-10-04.