Jac-y-do
| Jac-y-do | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Corvidae |
| Genws: | Corvus |
| Rhywogaeth: | C. monedula |
| Enw deuenwol | |
| Corvus monedula Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Jac-y-do (Corvus monedula) yn aelod o deulu'r brain. Mae'n nythu trwy Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a rhan helaeth o orllewin a chanol Asia.
Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34-39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.
Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.
Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.