J. P. Morgan
Ariannwr a bancwr Americanaidd oedd John Pierpont Morgan (17 Ebrill 1837 - 31 Mawrth 1913). Disgynnai drwy ochr ei dad i Miles Morgan o Sir Gaerfyrddin ac ymfudodd i America ym 1636.[1]
Cafodd ei eni yn Hardford, Connecticut, yn fab i Junius Spencer Morgan, bancwr, a'i wraig Juliet Pierpont. Addysgwyd ef yn ysgol Bellerive yn Y Swistir a Phrifysgol Göttingen.
Dechreuodd Morgan weithio ym manc ei dad yn Llundain ym 1857. Symudodd wedyn i Efrog Newydd ym 1858, ac ym 1871, dechreuodd gwmni gyda'i bartner gwaith, Anthony J. Drexel, o'r enw Drexel, Morgan & Company. Ar ôl marwolaeth Drexel, cafodd y cwmni'r enw newydd o J.P. Morgan & Company ym 1895.
Dechreuodd Morgan ad-drefnu rheilffyrdd ym 1885, ac enillodd reolaeth llawer o gwmnïau rheilen. Ym 1896, dechreuodd gyfuno diwydiannau trydan a dur. Erbyn y 1900au cynnar, rheolai Morgan bron pob un o brif ddiwydiannau America.
Bu farw yn Rhufain ym 1913.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Genealogical and family history of the state of New Hampshire: a record of the achievements of her people in the making of a commonwealth and the founding of a nation, Cyfrol 1; 1908; Cyhoeddwyd gan Lewis Publishing Company; tudalen 56
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Profiad Americanaidd- J.P. Morgan