John Humphreys Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o J. H. Davies)
John Humphreys Davies
Ganwyd15 Ebrill 1871 Edit this on Wikidata
Llangeitho Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Man preswylCwrt Mawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllyfryddiaethwr, person dysgedig, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
TadRobert Joseph Davies Edit this on Wikidata
MamFrances Davies Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a chasglwr llyfrau a llawysgrifau oedd John Humphreys Davies (15 Ebrill 187110 Awst 1926). Cysylltir ei enw â chasgliad Llawysgrifau Cwrtmawr. Maent yn rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn rhodd gan J. H. Davies.

Ganed J. H. Davies yn y Cwrt Mawr ger Llangeitho, Ceredigion yn 1871. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Lincoln, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn Gofrestrydd y coleg yn Aberystwyth yn 1905 a daeth yn brifathro yno yn 1919.

Roedd ei gyfeillion yn cynnwys Owen M. Edwards a T. E. Ellis.

Fel ysgolhaig gyda diddordeb eang yn llenyddiaeth a hanes Cymru, ymddiddorai yn llenyddiaeth a hanes y 18g, ac yn enwedig yng ngwaith Morrisiaid Môn a Goronwy Owen a chyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys golygiadau o gasgliadau o lythyrau'r Morrisiaid a Goronwy Owen.

Casglodd lyfrgell arbennig o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn ei gartref yn y Cwrt Mawr. Mae'r casgliad, a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, yn cynnwys 1,549 cyfrol amrywiol sy'n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y 18g. Testunau llenyddiaeth Gymraeg yw prif gynnwys y llawysgrifau, ond ceir sawl dogfen hanesyddol hefyd. Cafodd ei gyflwyno gan J. H. Davies yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith J. H. Davies[golygu | golygu cod]

  • Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901)
  • A Bibliography of Welsh Ballads (1909-11)
  • (gol.), The Morris Letters (2 gyfrol, 1907, 1909)
  • (gol.), The Letters of Goronwy Owen (1924)

Cofiant[golygu | golygu cod]

Ceir cofiant iddo gan T. I. Ellis (1963)