John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o J.R. Tryfanwy)
John Richard Williams
FfugenwTryfanwy Edit this on Wikidata
Ganwyd29 Medi 1867 Edit this on Wikidata
Rhostryfan Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1924 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd oedd John Richard Williams (29 Medi 186719 Mawrth 1924) , neu J.R. Tryfanwy neu Tryfanwy, a aned yn Rhostryfan, Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Roedd Tryfanwy'n fab i Owen a Mary Williams, y ddau o Lŷn yn wreiddiol. Fe'i magwyd yn Tan y Manod, y cartref teuluol, ym mhentref chwarel Rhostryfan.

Yn gynnar yn ei fywyd cafodd anffawd ac aeth yn fyddar a dall. Symudodd o Rostryfan i fyw ym Mhorthmadog lle daeth i adnabod y bardd Eifion Wyn a mwynhau ei gyfeillgarwch.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Roedd Tryfanwy yn fardd telynegol oedd yn bur boblogaidd yn ei ddydd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, sef Lloffion yr Amddifad (1892) ac Ar Fin y Traeth (1910). Canai ar bynciau nodweddiadol o'i gyfnod, yn cynnwys cerddi serch a natur. Rhamantaidd a phruddglwyfus yw ei awen. Brithir nifer o'i gerddi â delweddau deniadol o'i fro a mynyddoedd, llynnoedd a thraethau Llŷn, Arfon a Meirionnydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Lloffion yr Amddifad (1892)
  • Ar Fin y Traeth (Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, 1910)