J. M. Barrie
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth J.M. Barrie)
Roedd Syr James Matthew "J.M." Barrie (9 Mai 1860 – 19 Mehefin 1937) a oedd yn cael ei adanbod fel J. M. Barrie gan amlaf, yn awdur a dramodwr Albanaidd. Caiff ei gofio am greu cymeriad Peter Pan, y bachgen a wrthodai dyfu i fyny. Seiliodd y cymeriad hwn ar ei ffrindiau, y bechgyn Llewelyn Davies. Caiff ei ystyried fel y person a boblogeiddiodd yr enw Wendy hefyd, a oedd yn enw anghyffredin iawn cyn iddo roi'r enw i arwres Peter Pan.