Jón Gnarr
Oddi ar Wicipedia
| Jón Gnarr | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 Ionawr, 1967 Reykjavík |
| Enwau eraill | Jón Gunnar Kristinsson |
| Yn enwog am | Comedi, Gwleidyddiaeth |
| Galwedigaeth | Actor, Digrifwr, Gwleidyddwr |
Digrifwr, actor, gwleidydd a maer Reykjavík ers 15 Mehefin 2010 yw Jón Gnarr (cynaniad).
Dechreuodd Gnarr ei yrfa fel rhan o'r deuawd comedi Tvíhöfði. Mae Gnarr yn enwog am ei ffilmiau Islandeg Íslenski Draumurinn (Y Freuddwyd Islandeg) a Maður Eins Og Ég (Dyn Fel Fy Hun).
Yn niwedd 2009 ffurfiodd Gnarr Besti Flokkurinn (Y Blaid Orau) er mwyn dychanu polisiau gwleidyddol Gwlad yr Iâ. Yn 2010, ennillodd Besti Flokkurinn 6 sedd allan o 15 (gyda 34.7% o'r bleidlais) yn etholiad bwrdeistref Reykjavík .[1] Ers i Gnarr gael ei ethol fel maer, mae Reykjavík wedi mabwysiadu'r llysenw 'Gnarrenburg' (sef hefyd enw sioe radio a oedd Gnarr yn ymddangos arni).
Polisiau [golygu]
- Tywelion am ddim ym mhob pwll nofio
- Arth wen am sŵ Reykjavík
- Cymorth am lliprynnod
- Parc Disneyland o fewn yr ardal Vatnsmýri
- Senedd sobr a heb cyffuriau erbyn 2020
- Tryloywder cynaladwy (jôc yw hwn, mae neb yn gwybod y diffyniad)
- Caban tolli ar ymyl Seltjarnarnes
- Dileu dyled
- Mynediad rhydd i Hljómskálagarðurinn