İzmir
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Izmir)
Dinas a phorthladd yn ngorllewin Twrci yw İzmir (Groeg: Σμύρνη, Smýrni), hefyd Smyrna. İzmir yw ail borthladd Twrci, ar ôl Istanbul, a thrydedd dinas y wlad, gyda phoblogaeth o 4,130,444 yn 2009). Saif tua 450 km o'r de-orllewin o Istanbul. Hi yw prifddinas talaith İzmir.
Sefydlwyd y ddinas tua 3000 C.C.. Rhwng tua 2000 C.C. a 1200 C.C., roedd yn ffurfio rhan o Ymerodraeth yr Hethiaid. Tua'r flwyddyn 1000 C.C., fe'i poblogwyd gan ymfudwyr o Wlad Groeg ac Anatolia. Yn 688 CC, fe'i cipiwyd gan ddinas Colofon, a daeth yn rhan o Gynghrair Ionia. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y canrifoedd nesaf. Yn 1922 daeth yn rhan o Dwrci, a gorfodwyd tua miliwn o Roegiaid i adael i ddinas a symud i Wlad Groeg.