Iwan Rhys

Oddi ar Wicipedia
Iwan Rhys yn darllen ei waith yn Stomp Tegeing yn yr Wyddgrug.

Bardd Cymreig ydy Iwan Rhys. Yn Hydref 2012 roedd yn un o bedwar bardd a dderbyniodd her Llenyddiaeth Cymru i sgwennu 100 o gerddi mewn 24 awr.[1]

Fe'i magwyd ym o Mhorthyrhyd ger Caerfyrddin. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, yn 2001 ac yn 2008. Bu’n rhan o’r daith farddol Crap ar Farddoni yn 2006 gyda Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury. Mae’n aelod o dîm Y Glêr ar Dalwrn y Beirdd a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion .[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1] 100 o gerddi
  2. [2] Gwefan Amazon; adalwyd Hydref 2012