Itanagar
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas talaith Arunachal Pradesh yng ngogledd-ddwyrain India yw Itanagar (Hindi: ईटानगर). Gorwedd Itanagar yn rhagfryniau'r Himalaya. Yn weinyddol mae'n rhan o ardal Papum Pare. Mae ganddi boblogaeth o 34,970.
Enwir y ddinas ar ôl amddiffynfa hanesyddol Caer Ita, sy'n dyddio o'r 15fed ganrif. Mae atyniadau eraill yn cynnwys Llyn Ganga (Gyakar Sinyi) a theml Fwdhydd Buddha Vihar, a gysegrwyd gan y Dalai Lama.
Mae gwasanaeth bws yn cysylltu Itanagar a Guwahati, prifddinas Assam.