Ynys Portland

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Isle of Portland)
Ynys Portland
Mathynys glwm Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolPortland
Daearyddiaeth
SirDorset
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd11.5 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.55°N 2.44°W Edit this on Wikidata
Cod OSSY690721 Edit this on Wikidata
Cod postDT5 Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Ynys oddi ar arfordir o Dorset, De-orllewin Lloegr, ar ei bwynt mwyaf deheuol, yw Ynys Portland (Saesneg: Isle of Portland).[1] Mae'n cael ei ymuno â'r tir mawr gan draeth graeanog 29 km (18 milltir) o hyd, sef Traeth Chesil.

Mae ganddi arwynebedd o tua 12 km² – tua 6 km (4 milltir) o hyd a 2.7 km (1.7 milltir) o led. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Portland, Dorset. Mae ei haneddiadau yn cynnwys Castletown, Chiswell, Easton, Fortuneswell, The Grove, Southwell a Weston.

Mae'r ynys, sy'n sefyll ar ganol yr Arfordir Jwrasig, yn cael ei ffurfio o galchfaen. Mae Carreg Portland yn uchel ei barch fel carreg adeiladu, ac mae sawl chwarel ar yr ynys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 21 Mawrth 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Dorset. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato