Isiarll Mills
Oddi ar Wicipedia
Teitl ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig yw Isiarll Mills o Kensington yn Swydd Llundain. Crewyd ym 1962 ar gyfer y gwleidyd Ceidwadol Percy Mills, Barwn 1af Mills. Roedd eisoes wedi cael ei greu'n Farwnig o Alcester yn Swydd Warwick, ym Marwnigaeth y Deyrnas Unedig ar 1 Gorffennaf 1952, a Barwn Mills o Studley yn Swydd Warwick, ym 1957, hefyd ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig. Deilir y teitlau heddiw gan ei wyr, y trydydd Isiarll a olynodd ei dad ym 1988.
Isiarll Mills (1962)[golygu]
- Percy Herbert Mills, Isiarll 1af Mills (1890–1968)
- Roger Clinton Mills, 2il Isiarll Mills (1919–1988)
- Christopher Philip Roger Mills, 3ydd Isiarll Mills (ganwyd 1956), cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Nid oes etifeddydd i'r teitlau.
Cyfeiriadau[golygu]
- Kidd, Charles, Williamson, David (gol.), Debrett's Peerage and Baronetage (rhifyn 1990). Efrog Newydd: St Martin's Press, 1990.
- Tudalen pendefigaeth Leigh Rayment