Ishmael (sant)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sant Cymreig oedd Ishmael, hefyd Ismel, Isfael ac amrywiadau eraill (fl. 6ed ganrif).

Bywgraffiad[golygu]

Dywedir ei fod yn nai i Sant Teilo ac yn frawd i Tyfei ac Oudoceus. Roedd ei dad, Buddig, yn dywysog o Lydaw a alltudiwyd i Ddyfed. lle priododd Anauved, chwaer Teilo. Dywedir hefyd ei fod un un o ddisgyblion Dewi, ac iddo ei olynu yn Nhyddewi.

Ceir nifer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn yn Sir Benfro, y rhan fwyaf yn hen gantref Rhos, ac un yn Sir Gaerfyrddin, sef Llanismel. Y bwysicaf oedd eglwys Llanisan-yn-Rhos, ar lan Milffwrdd, oedd yn un o saith esgobdai Dyfed.

Cyfeiriadau[golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.