Isafon

Oddi ar Wicipedia
Afon Alun ger Llanferes. Mae Afon Alun yn isafon i Afon Dyfrdwy.

Afon neu nant sy'n llifo mewn i lyn neu afon arall yw isafon neu llednant (hefyd rhagnant). Nid yw'n llifo'n uniongyrchol i'r môr. Gelwir y man lle mae dwy afon yn ymuno yn gydlifiad neu gymer. Tra bod gan isafon ei ddalgylch afon ei hun, mae yntau'n rhan o ddalgylch y brif afon sy'n cario'r dŵr i'r môr.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.