Iris Williams

Oddi ar Wicipedia
Iris Williams
Ganwyd20 Ebrill 1946 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Man preswylTonyrefail Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cerddor jazz Edit this on Wikidata

Mae Iris Williams OBE (ganwyd 20 Ebrill 1944) yn gantores Gymreig.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Williams ym Mhontypridd, o ganlyniad i berthynas all-briodasol a gafodd ei mam gyda GI Americanaidd tra bu ei gŵr yn y fyddin. Gwrthododd gŵr ei mam ei magu a chafodd ei danfon i gartref plant amddifad, cyn cael ei maethu gan Bronwen Llywelyn yn Nhonyrefail, Mrs Llywelyn fagodd y diddordeb yn Williams mewn cerddoriaeth.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a thra yn y coleg dechreuodd ymddangos ar y rhaglen Disc a Dawn, y ddynes groenddu cyntaf i ymddangos ar raglen deledu Cymraeg. Ym 1968 cyhoeddodd ei record gyntaf, record estynedig yn cynnwys y caneuon Tra Byddo Dŵr; Y Cobler Du Bach, Mi Fûm Yn Caru ac Y Gog Lwydlas.[3] . Ym 1974 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân I Gael Cymru'n Gymru Rydd. Daeth i frig siartiau'r DU ym 1979 gyda'r gân He Was Beautiful, bu ganddi hefyd gyfres deledu Saesneg ar y BBC. Ers 1991 mae Williams wedi bod yn byw yn Efrog Newydd, lle mae hi'n perfformio'n rheolaidd ar y gylchdaith canu Jazz. Ym 1999 bu Williams yn un o'r sêr a fu'n perfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ym 1999 gwnaed Williams yn Gymrawd Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn 2004 dyfarnwyd yr OBE iddi[4], mae hi hefyd, ers 2006, yn aelod o Orsedd y Beirdd.[5]

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Clive Pyatt ym 1982 a chafodd eu mab Blake ei eni ym 1984.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]