Iolo ap Dafydd
| Iolo ap Dafydd | |
|---|---|
| Geni | |
| Galwedigaeth | Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Iolo ap Dafydd. Ef yw Gohebydd Amgylchedd a Materion Gwledig BBC Cymru.[1]
Daw ap Dafydd o Lanrwst, Dyffryn Conwy yn wreiddiol, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn byw yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Israel a Seland Newydd.
Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor.[2] Bu'n gweithio fel ymchwilydd, is-gynhyrchydd a chyflwynydd rhai o raglenni HTV Cymru, Channel 4 ac S4C cyn ymuno â’r BBC ym 1993 fel Gohebydd Chwaraeon yn y Gymraeg ar raglen Newyddion BBC Cymru, ac fe’i enwebwyd â chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr BT Welsh Sports Journalist of the Year yn 2002. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd Ewropeaidd y BBC. Mae wedi cael y cyfle i adrodd y newyddion o bedwar ban y byd; o Efrog Newydd yn dilyn ymosodiadau 11 Medi, o Afghanistan, Oman, Israel, Gwlad Iorddonen, Kuwait ac Irac, roedd yn gohebu o Hilla pan ddarganfuwyd y beddau torfol.
Ymunodd â thîm rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar ddydd Gŵyl Dewi 2004, ac bu hefyd yn gohebu ar raglen Week In Week Out yn 2004.[3]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ O Flaen Dy Lygaid: Dyfroedd Dyfnion. S4C.
- ↑ Ble mae ein cyn-fyfyrwyr?. Prifysgol Bangor.
- ↑ Yr wythnos hon, yr holwr Iolo ap Dafydd, sydd dan y chwyddwydr…. Yr Academi (Chwefror 2005).