Iolo Williams

Oddi ar Wicipedia
Iolo Williams
Ganwyd22 Awst 1962 Edit this on Wikidata
Llanfair-ym-Muallt Edit this on Wikidata
Man preswylPowys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd, adaregydd, cyflwynydd teledu, swolegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwefanhttp://www.iolowilliams.co.uk/ Edit this on Wikidata

Naturiaethwr a chyflwynydd teledu ydy Iolo Tudur Williams (ganwyd 22 Awst 1962, Llanfair ym Muallt). Mae'n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni natur ar sianeli BBC ac S4C. Dechreuodd gyflwyno rhaglenni ar BBC Cymru yn 1997. Roedd cyfres Birdman 2001 ar BBC Two yn dilyn ei waith fel swyddog RSPB

Treuliodd dri mis cyntaf ei fywyd ym mhentref Beulah cyn i'w dad gael swydd fel prifathro yn Ysgol Gynradd Eglwys Wen Sir Benfro. Dychwelodd y teulu i Bowys pan oedd Iolo'n bump oed a magwyd ef yn Llanwddyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Efyrnwy Llanwddyn cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Yno astudiodd Ffrangeg a Bioleg ar gyfer lefel A cyn astudio Ecoleg yn Llundain. Wedyn bu'n gweithio ar fferm am wyth mis ac yn y diwydiant coed am gyfnod. Cafodd swydd fel swyddog RSPB yn 1985 a treuliodd yr 14 mlynedd ganlynol yn gweithio dros yr elusen.

Yng Ngorffennaf 2003, cerddodd 270 milltir o ogledd Cymru i'r de mewn 11 diwrnod er mwyd codi arian i'r elusennau plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.

Roedd Iolo Williams yn wyneb ar gyfer ymgyrch hybu darllen, Diwrnod y Llyfr yn 2004.[1]

Erbyn hyn mae Iolo Williams yn byw ym mhentref Llandysul, ger y Drenewydd.[2]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch (BBC)
  • Nature’s Top 40 (BBC)
  • Britain’s Big Wildlife Revival (BBC)
  • Countryfile (BBC)
  • Iolo’s Great Welsh Parks (BBC)
  • Rugged Wales (BBC)
  • Canals of Wales (BBC)
  • Secret Life of Birds (BBC)
  • Wild Wales (BBC)
  • Wild Winter (BBC)
  • Iolo's Special Reserves (BBC)
  • Iolo's Natural History of Wales (BBC)
  • Iolo's Welsh Safari, 2005 (BBC)
  • Natur Gudd Cymru (S4C)
  • Cwm Sal, Cwm Iach, 2009 (S4C)
  • Cwm Glo, Cwm Gwyrdd (S4C)
  • Bro, 2009–12 (S4C)
  • Iolo yn Rwsia (S4C)
  • Gwyllt (S4C)
  • Natur Anghyfreithlon (S4C)
  • Crwydro (S4C)
  • Iolo ac Indiaid America (S4C)
  • Hydref Gwyllt Iolo, 2020 (S4C)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfrau Iolo Williams[golygu | golygu cod]

  • Blwyddyn Iolo (Gwasg Gwynedd, 2003)
  • Crwydro (Hughes a'i Fab, 2004)
  • Wild about the Wild (Gwasg Gomer, 2005)
  • Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw (Gwasg Gomer, 2011)
  • Cynefin yr Ardd, gyda Bethan Wyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
  • Wild Places: Wales' Top 40 Nature Sites (Seren, 2017)

Awduron Eraill[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Adnoddau DYLL 2004[dolen marw]
  2. Cyfweliad ar wefan Llais Llên BBC Cymru

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.