Inview Technology
Oddi ar Wicipedia
| Inview Technology | |
|---|---|
| Math | Cyfyngedig |
| Sefydlwyd | 2006 |
| Sylfaenydd | Ken Austin |
| Pencadlys | Northwich, Lloegr Gwledydd Prydain |
| Ardal wasanaethu | Byd-eang |
| Pobl blaenllaw | Julie Austin (Prif Weithredwr) Gareth Jnoes (CTO) |
| Diwydiant | Teledu clyfar |
| Gweithwyr | 85 |
| Arwyddair | "Mwy na theledu" |
| Gwefan | http://www.inview.co.uk |
Cwmni cyfyngedig sy'n arbenigo mewn troi teledai rhad yn deledu clyfar ydy Inview Technology, sydd wedi'i leoli yn Northwich, Lloegr. Drwy naill ai sglodyn silicon arbennig neu set-top-box mae'n galluogi'r gwyliwr i uno (ac i dderbyn) sawl technoleg: fideo-ar-gais (video-on-demand), llifo sain (audio streaming), sianeli terestial arferol, rhwydweithio cymdeithasol ar-lein a chynnwys lleol. Mae'r cwmni'n allforio'u cynnyrch ledled y byd.
Mae'r cwmni yn bartneriaid gyda nifer o grwpiau megis Teletext ac Acetrax.[1] Mae'r Cadeirydd, Ken Austin yn byw yng Nghymru ac yn flaenllaw ym maes yr EPG (Electronic Programme Guide) ers blynyddoedd.[2] a Chymro arall, sef Gareth Jones, yw'r Prif Dechnegydd (CTO).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Radio Times to run Freeview EPG". Broadband TV News. 2011-01-31. http://www.broadbandtvnews.com/2011/01/31/radio-times-to-run-freeview-epg/.
- ↑ "Inview’s own Oficial Wepsite". Inview. 2012-03-19. http://www.inview.co.uk/About_Inview_Background_History.html.