Indra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Indra gyda Sachi yn marchogaeth Airavata

Duw grymus a gysylltir â Rhyfel a'r Tywydd yn y Veda ac sydd hefyd yn Frenin y duwiau ac Arglwydd y Nefoedd yn ei balas yn Svargaloka yn Hindŵaeth yw Indra (Sansgrit: इन्द्र neu इंद्र, Indra). Ceir y cyfeiriadau cynharaf ato yn y Rig Veda hynafol. Yno mae'n cael ei bortreadu fel cymeriad arwrol sy'n brwydro ar ran y duwiau ond sy'n hoff hefyd o garu. Ym mytholeg Hindŵaeth mae'n frenin ar y devas, ond lleihaodd ei addoliad a'i bwysigrwydd yn ddiweddarach yn dilyn cyfnod y testunau Purana gyda'r cynnydd ym mhwysigrwydd y Trimurti.

Ei chymar dwyfol yw'r dduwies Sachi. Fe'i portreadir yn aml yn marchogaeth yr eliffant Airavata.

Draig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Om.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.