In-Q-Tel

Oddi ar Wicipedia
In-Q-Tel
Math
busnes
Math o fusnes
sefydliad di-elw
Sefydlwyd1999
PencadlysArlington County
Gwefanhttps://www.iqt.org/ Edit this on Wikidata

Busnes buddsoddi cyfalafiad Americanaidd di-elw yw In-Q-Tel (IQT neu In-Q-It), a greuwyd yn wreiddiol fel Peleus, a sefydlwyd yn 1999 gan y CIA (Central Intelligence Agency) ac a reolir yn uniongyrchol gan yr asiantaeth honno. Lleolir ei bencadlys yn Arlington, Virginia, heb fod yn nepell o Washington D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau.

Bwriad y cwmni yw archwilio ac ariannu busnesau sy'n creu technolegau masnachol arobryn gwreiddiol y gellir eu haddasu ar gyfer gwaith y gwasanaethau gwybodaeth gwladol yn UDA.

Logo In-Q-Tel yn 2010

Ymhlith y busnesau a phrosiectau mae In-Q-Tel wedi buddsoddi ynddynt mae Convera (meddalwedd), Inxight (chwilio gwybodaeth arlein a chyfieithu), Tacit Software (meddlawedd), Attensity (cyfieithu), Nanosys (nanotechnoleg), Keyhole (Google Earth), a Palantir Technologies (gwybodaeth). Un o fentrau diweddaraf In-Q-Tel yw buddsoddiad sylweddol, gyda Google ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.[1] Gwnaed y buddsoddiadau hyn yn 2009 ond ni ddatguddwyd y wybodaeth tan fis Gorffennaf 2010.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Google and CIA Plough Millions Into Huge ‘Recorded Future’ Monitoring Project" Archifwyd 2010-08-07 yn y Peiriant Wayback., Infowars.com.
  2. "Federal Computer Week". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-31. Cyrchwyd 2010-08-05.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]