If You Tolerate This Your Children Will Be Next

Oddi ar Wicipedia
Clawr yr albwm

Sengl gan y band roc Cymreig Manic Street Preachers yw "If You Tolerate This Your Children Will Be Next". Fe'i rhyddhawyd 24 Awst 1998 gan Epic Records fel sengl cyntaf eu pumed albwm This Is My Truth Tell Me Yours. Cyrhaeddodd y gân frig y siartiau Prydeinig am un wythnos ym mis Medi 1998.[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]


Ysbrydolwyd y gân gan Ryfel Cartref Sbaen a delfrydiaeth y Cymry a wirfoddolodd i ymladd ar ochr y Brigadau Rhyngwladol adain chwith a oedd yn ymladd dros Ail Weriniaeth Sbaen yn erbyn lluoedd ffasgaidd Francisco Franco. Daw enw'r gân o boster Gweriniaethol o'r cyfnod a fu'n dangos llun o blentyn a laddwyd gan y lluoedd ffasgaidd gydag wybr yn llawn o awerynnau bomio yn y cefndir a'r rhybudd llwm "os ydych yn goddef hyn, eich plant fydd nesaf" wedi ei ysgrifennu oddi tano.[2]

Ar ben hynny, dylanwadodd Rhyfel Cartref Sbaen ar y gân, a cheir sawl cyfeiriad ato yn y gân. Er enghraifft, priodolir y llinell "If I can shoot rabbits / then I can shoot fascists" i gyfweliad gan ddyn, flynyddoedd wedi'r ryfel, a wirfoddolodd ar ochr y Gweriniaethwyr.[3]. Gwaith arall yw Homage to Catalonia gan George Orwell, sef ei dystiolaeth personol o'r rhyfel. Mae'r linell "I've walked Las Ramblas / but not with real intent" yn dwyn i gof hanes Orwell o frwydro ar y Ramblas, a'r amryw garfanau'n methu ag ennill tir, a'u temlad o frawdgarwch cryf a oedd yn drech na realiti anobeithiol y sefyllfa.[4]


Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (19th ed.). London: Guinness World Records Limited. p. 624. ISBN 1-904994-10-5.
  2. Gellir gweld fersiwn gwreiddiol o'r poster hwn yn yr Imperial War Museum, Llundain— Eitem IWM PST 8661.
  3. Cafwyd y dyfyniad hwn yn llyfr Hywel Francis, Miners Against Fascism
  4. Orwell, George. 2000. Homage to Catalonia. Penguin Books, Llundain. tud. 106-118