Ieuan Wyn (milwr)

Oddi ar Wicipedia
Ieuan Wyn
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata

Milwr Cymreig fu'n ymladd yn y Rhyfel Can Mlynedd oedd Ieuan Wyn, llysenw Le Poursuivant d'Amour (fl. 1351 - 1384), yn ôl pob tebyg, yr un person a Ieuan ap Rhys ap Roppert.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cred A.D. Carr fod Ieuan Wyn bron yn sicr yr un person a Ieuan ap Rhys ap Roppert; os felly roedd yn frodor o Sir y Fflint ac yn un o Wyrion Eden, disgynyddion Ednyfed Fychan.[1]

Ar y dechrau, ymladdai Ieuan ar ochr brenin Lloegr. Yn ôl Christine de Pisan, cymerodd ran ar ochr y Saeson ym Mrwydr y Deg ar Hugain yn Josselin yn Llydaw yn 1351. Efallai mai ef oedd y "Jacques Wyn" y cofnodir iddo anrheithio Auvergne, Forez a'r Lyonnais ar ôl Brwydr Poitiers yn 1356. Yn 1365, gorchymynwyd iddo ef a Syr Nicholas de Tamworth ail-gipio caerau ym Mwrgwyn, Nvers a Rethel.[1]

Cofnodir fod Ieuan Wyn yn geidwad Castell Beaufort yn Champagne dros John o Gaunt yn 1369. Newidiodd ei ochr i gefnogi Siarl V, brenin Ffrainc, a pharhaodd yn geidwad y castell dros Siarl. Dywedir gan Jean Froissart iddo ef a chapten arall o'r enw Yvon gyflawni campau milwrol yn erbyn y Saeson. Gall "Yvon" fod yn gamgymeriad am "Owain"; yn sicr ymunodd Ieuan a chwmni milwyr Owain Lawgoch yn ddiweddarach, a bu'n ddirprwy iddo.[1]

Ar farwolaeth Owain, daeth Ieuan Wyn yn arweinydd y cwmni. Ceir nifer o gyfeiriadau at daliadau iddo ef a'i gwmni yn y blynyddoedd nesaf. Ar 8 Chwefror 1384, gorchymynodd Siarl VI, brenin Ffrainc wneud taliad arbennig o 200 ffranc aur iddo am ei wasanaeth da, yn enwedig yn Fflandrys. Ni cheir cyfeiriad ato yn y cofnodion yn ddiweddarach na Mehefin 1384.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 A.D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991).