Ieuan Trefor I

Oddi ar Wicipedia
Ieuan Trefor I
GanwydTrefor Edit this on Wikidata
Bu farw1357 Edit this on Wikidata
Man preswylNeuadd Trefor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llanelwy, esgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Clerigwr Cymreig oedd Ieuan Trefor I (bu farw 1357), a wasanaethodd fel Esgob Llanelwy o 1346 hyd ei farw yn 1357. Fe'i adnabyddir hefyd fel Siôn Trefor yn Gymraeg a John Trevor I yn Saesneg.

Gŵr o Blas Trefor ger Llangollen oedd Ieuan. Dywedir mai ef a gododd y bont dros Afon Dyfrdwy yn Llangollen yn 1345. Claddwyd ei dad, Iorwerth ab Adda, yn Abaty Glyn y Groes gerllaw.

Ceir cerdd gan Iolo Goch sy'n moli 'llys Ieuan, Esgob Llanelwy'. Ond ceir esgob arall o'r un enw, sef Ieuan Trefor II, un o gefnogwyr Owain Glyndŵr yn 1404, ac mae haneswyr llên yn angytuno am wrthrych y gerdd. Daliai Enid Roberts fod y cywydd yn disgrifio llys Ieuan Trefor I ond mae Dafydd Johnston yn dadlau, gyda pheth betrusder, dros ei amseru i gyfnod Ieuan Trefor II. Ond roedd gan Iolo Goch gysylltiad â llys esgob Llanelwy cyn 1346, fel mae ei awdl i Dafydd ap Bleddyn, rhagflaenydd Ieuan Trefor I, yn profi, felly y mae'n hollol bosibl mai i Ieuan Trefor I y canwyd y cywydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVI a'r nodiadau.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.