Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol yn ieithoedd Celtaidd a arferwyd eu siarad yn Ne-orllewin Ynys Prydain ac yn Llydaw yn dilyn Brwydr Deorham yn 577. Cyn hynny roedd yr ieithoedd fwy neu lai yn un, ond esblygon nhw ar wahân i fod yn: Gernyweg, a Llydaweg.

Hyd yn oed rhwng 800 a 1,100 OC, roedd yr Hen Gernyweg a'r Hen Lydaweg yn union yr un fath ac yn debyg iawn i'r Gymraeg a'r dafodiaith Cymbrieg a siaradwyd yn yr Hen Ogledd.

Mae rhai o'r newidiadau yn y sain a wahaniaethodd yr Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol oddi wrth y Gymraeg yn cynnwys:

  • codi'r */(g)wo-/  i  /(g)wu-/ mewn sill cyn-donydd (nid oedd codiad yn y Gymraeg)
  • blaenu'r */ɔː/  i  /œː/  (newidwyd i ddeusain /aw/ yn Gymraeg)
  • blaenu'r */a/  i  */e/  cyn  */iː/  neu  */j/  mewn sill olaf hen (newidwyd i ddeusain /ei/  yn Gymraeg)

Mae gwahaniaethau sylweddol eraill i'w cael yn y Cymraeg, na ddigwyddodd yn yr ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol, megis datblygiad yr affrithiol ochrol alfeolaidd di-lais /ɬ/.

Enghreifftiau o'r iaith[golygu]

  • Nedelek Lauen - Nadolig Llawen
  • Mur ras - Diolch

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni Allanol[golygu]

  • (Saesneg) [1] - Gwefan am yr iaith

Gweler hefyd[golygu]